Skip to main content

  Nodyn atgoffa: Bydd unrhyw gofrestriadau neu ymholiadau a wneir ar ôl dydd Gwener 20 Rhagfyr yn cael eu prosesu unwaith y bydd y Coleg wedi ailagor ar ddydd Llun 6 Ionawr. Diolch am eich dealltwriaeth.

Tycoch

Mae Tycoch yn gampws prysur a bywiog i fyfyrwyr sy’n dilyn amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol.

Agorodd ein prosiect buddsoddi gwerth £4 miliwn, sydd wedi creu ystafelloedd dysgu a chymdeithasol modern, ar y campws ym mis Chwefror 2018.

Ar y llawr cyntaf mae Canolfan Brifysgol bwrpasol i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau lefel uwch. Mae’r ganolfan yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafell gyffredin a man dysgu arbenigol.

Mae’r campws o fewn pellter cerdded i Sgeti ac mae’r cysylltiadau cludiant i ac o ganol dinas Abertawe yn ardderchog.

Digwyddiadau sydd ar ddod ar Gampws Tycoch

DigwyddiadauDyddiadDolen cofrestru
Noson agored amser llawn18 Tachwedd 2024Bwcio lle
Noson agored amser llawn20 Ionawr 2025Cofrestru ar agor yn fuan
Noson agored amser llawn24 Mawrth 2025Cofrestru ar agor yn fuan

Rhestr o’r holl ddigwyddiadau

Manylion Cyswllt

Heol Tycoch,
Abertawe
SA2 9EB
Ffôn: 01792 284000
E-bost

Oriau agor

Yn ystod y tymor

Dydd Llun i Ddydd Iau - 8am tan 9pm
Dydd Gwener - 8.30am tan 4.30pm

Yn ystod y gwyliau
Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am tan 5pm
Dydd Gwener - 8.30am tan 4.30pm

Archwiliwch ein campws mwyaf, Tycoch. Mae Tycoch yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau modern megis ffug wardiau, caban awyren rhithwir a bwyty hyfforddi cwbl weithredol, sy’n cynnig amgylchedd gwaith realistig.

Edrychwch o gwmpas ein Canolfan Brifysgol a ddefnyddir gan ein myfyrwyr addysg uwch yn unig. Mae’r Ganolfan Brifysgol yn cynnwys sawl ystafell ddosbarth, llyfrgell ac ystafell gyffredin, gan roi lle a chymorth i chi lwyddo yn eich astudiaethau.

Darganfyddwch yr ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon Tycoch, gan gynnwys campfa, ystafell droelli/beicio, ac Yr Efail; ystafell Olympaidd lle gallwch godi pwysau a derbyn hyfforddiant ymarferol. Bydd y daith Realiti Rhithwir hon yn dangos y mannau a ddefnyddir ar gyfer ein hyfforddiant a’n dosbarthiadau ffitrwydd.

Edrychwch o gwmpas ein Canolfan Arloesi Gyfrifiadurol, sy’n gartref i gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer cyrsiau cyfrifiadura a thechnoleg. Mae’r Ganolfan hefyd yn bencadlys i Gwdihŵs CGA, lle maen nhw’n ymarfer ar gyfer Pencampwriaethau e-Chwaraeon Prydain.