Skip to main content

  Nodyn atgoffa: Bydd unrhyw gofrestriadau neu ymholiadau a wneir ar ôl dydd Gwener 20 Rhagfyr yn cael eu prosesu unwaith y bydd y Coleg wedi ailagor ar ddydd Llun 6 Ionawr. Diolch am eich dealltwriaeth.

Gorseinon

Mae mwy na 2000 o fyfyrwyr amser llawn yn astudio ar Gampws Gorseinon, lle mae ganddynt ddewis o bron 40 o bynciau Safon Uwch ac amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol. Mae cymorth i fyfyrwyr yn ganolog i’n gweithgareddau ac mae cyfleusterau’r Campws yn cael eu huwchraddio’n gyson i greu amgylchedd sy’n rhoi modd i fyfyrwyr gyrraedd eu potensial.

Ymhlith y cyfleusterau arbenigol a ddarperir mae labordai gwyddoniaeth, ystafelloedd cerbydau modur a chanolfan ar gyfer y celfyddydau perfformio a chreadigol.

Ailddatblygu Campws Gorseinon

Mae Coleg Gŵyr Abertawe a’i bartner adeiladu, Kier Group, yn falch o gyhoeddi prosiect datblygu sylweddol ar gampws Gorseinon a fydd yn nodi buddsoddiad arwyddocaol mewn addysgu a dysgu myfyrwyr.

Mae’r prosiect yn cynnwys buddsoddiad gwerth £20.6 miliwn, a gefnogwyd gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect newydd, a fydd wedi ei gwblhau yn 2026, yn cynnwys mynedfa newydd, ystafelloedd dosbarth ychwanegol, mannau cymdeithasu newydd i fyfyrwyr a system llif traffig gwell.

Wrth i’r gwaith ailddatblygu fynd rhagddo, bydd prif dderbynfa Campws Gorseinon yn symud i’r ail lawr, Bloc A.

Manylion Cyswllt

Heol Belgrave
Gorseinon
Abertawe
SA4 6RD
Ffôn: 01792 890700

Oriau Agor yn ystod y Tymor

Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am i 5pm
Gwener - 8.30am i 4.30pm

Cer ar daith rithwir o amgylch Campws Gorseinon i gael cip ar yr ystafelloedd dosbarth, ardaloedd cyffredin a’r cyfleusterau sydd ar gael i’n myfyrwyr amser llawn.

Cer am dro o amgylch cartref ein myfyrwyr ar gampws Gorseinon. Mae gan y Bloc Celfyddydau gyfleusterau ar gyfer celfyddydau cain, celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, ffotograffiaeth yn ogystal â Chanolfan Ffasiwn a Thecstilau.

Cer am dro o amgylch Theatr Einon, ein llwyfan ar gyfer myfyrwyr celfyddydau perfformio a chynhyrchu theatr.

Arddangosfeyd Celf Rithwir

Lefel 3

Lefel A