Cafodd cannoedd o ddysgwyr ifanc eu gwahodd yn ddiweddar i lansiad Hyb Seren Abertawe ar gyfer 2023/24, lle roedden nhw’n gallu dysgu rhagor am y sgiliau sydd eu hangen i ymgeisio i brifysgolion gorau’r DU.
Dan arweiniad Coleg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe, cynhaliwyd y digwyddiad yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae y Brifysgol. Roedd tua 250 o fyfyrwyr o’r Coleg ac ysgolion chweched dosbarth lleol yn bresennol, ynghyd â nifer o rieni a gwarcheidwaid.
Ar ôl croeso rhagarweiniol gan Dr Emma Smith, Rheolwr Cyfoethogi Academaidd y Coleg a Chydlynydd Seren Abertawe, daeth yr Athro Simon Bott, Arweinydd Addysg yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol yn y Brifysgol, a Phennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones, i’r llwyfan.
Fe wnaeth Simon a Mark sôn am y buddion niferus i bobl ifanc sy’n ymwneud â Hyb Seren Abertawe, o safbwynt addysg uwch a safbwynt addysg bellach.
Hefyd yn bresennol roedd Dr. Matthew Williams a Megan Lee, Cynorthwyydd Mynediad a Derbyn, o Goleg yr Iesu, Rhydychen, a draddododd ddarlith ar sgiliau meddwl beirniadol.
Roedd llais y dysgwr hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn y digwyddiad, gyda’r myfyriwr Safon Uwch, Anna Petrusenko, yn camu i’r llwyfan i ddweud sut mae Seren wedi rhoi cyfleoedd iddi ddatblygu ei diddordeb yn ei phynciau a’i chynorthwyo i wneud cais i Brifysgol Caergrawnt i astudio cyfrifiadureg.
“Mae Hyb Seren Abertawe yn rhoi modd i fyfyrwyr archwilio elfennau uwch-gwricwlar y pynciau sydd yn hanfodol o ran datblygu eu chwilfrydedd academaidd a’u hyblygrwydd deallusol,” meddai Emma. “Mae ein digwyddiad lansio yn enghraifft wych o’r bartneriaeth weithio gadarn sy’n bodoli rhwng y Coleg, y Brifysgol, a’r saith ysgol yn Abertawe – cydweithrediad sydd â’r nod o ehangu cyfranogiad pobl ifanc sy’n anelu at sefydliadau addysg uwch blaenllaw.”
Ar ôl yr anerchiadau, gwahoddwyd myfyrwyr i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr blasu dan arweiniad academyddion Prifysgol Abertawe. Roedd rhieni a gwarcheidwaid hefyd yn gallu cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda Steve Minney, Pennaeth Recriwtio Israddedigion, Emily Rees, Swyddog Recriwtio Myfyrwyr, ill dau o Brifysgol Abertawe, a Matthew a Megan o Goleg yr Iesu, Rhydychen.
Mae Seren yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu dysgwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn yn y DU a thramor.
Ar gael i bob dysgwr â gallu academaidd ym Mlwyddyn 12 a Blwyddyn 13, mae Academi Seren yn cynnig sesiynau rhyngweithiol a phrofiadau astudio unigryw i helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch gwneud cais i brifysgolion blaenllaw. Mae hyn yn cynnwys gweithdai cyngor ac arweiniad gan diwtoriaid derbyn Rhydychen a Chaergrawnt, sesiynau paratoadau derbyn i brifysgolion, mynediad i ddosbarthiadau meistr pynciol dan arweiniad academyddion prifysgol, a chyfleoedd ysgol haf yn Rhydychen ac Iâl.