Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi lansiad llwyddiannus ei gynnig addysgol diweddaraf sef y cwrs Mynediad i Beirianneg. Bydd dysgwyr yn gallu cofrestru ar y cwrs tan hanner tymor mis Hydref. Mae’n ddewis perffaith i’r rhai sy’n gobeithio dechrau gyrfa newydd neu ddychwelyd i fyd addysg ar ôl hoe eleni.
Nod cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yw rhoi’r sgiliau hanfodol a’r cymwysterau sydd eu hangen ar unigolion 19 oed a hŷn i’w helpu i gael lle mewn addysg uwch. Mae cyrsiau yn croesawu unigolion o gefndiroedd a chyfnodau bywyd amrywiol.
Yn y dosbarth presennol mae grŵp deinamig o 10 myfyriwr sy’n cynnwys dysgwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r amserlen hyblyg, gyda thri dosbarth yr wythnos o 9.30am tan 3pm, yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cydbwyso eu hastudiaethau ag ymrwymiadau gwaith a theulu.
Mae’r cwrs blwyddyn yn rhoi sgiliau sylfaenol i ddysgwyr mewn mathemateg, gwyddoniaeth a disgyblaethau peirianneg amrywiol, gan balmantu’r ffordd ar gyfer gyrfaoedd mewn sectorau amrywiol megis awyrennau, sifil, cemegol, biofeddygol, trydanol, electronig, mecanyddol, chwaraeon moduro, neu beirianneg niwclear. Yn nhymor yr hydref, bydd dysgwyr yn cael arweiniad arbenigol trwy broses ymgeisio UCAS. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn gallu manteisio ar weithdai cyffrous, a gynhelir ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Ar ôl cwblhau’r cwrs Mynediad yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i lefelau uwch o addysg yn y Coleg neu mewn prifysgol. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau, gan gynnwys cyrsiau Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) a Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Peirianneg Fecanyddol a Pheirianneg Drydanol ac Electronig, yn ogystal â Phrentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Integredig. Mae’r llwybrau hyn yn agor drysau i yrfaoedd cyffrous yn y diwydiant perianneg sy’n tyfu.
Mae cwrs Mynediad i Beirianneg newydd Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig cyfleoedd addysgol a gyrfaol trawsnewidiol. P’un a ydych yn ystyried newid gyrfa neu gymryd y cam nesaf ar eich taith addysgol, bydd y cwrs hwn yn gallu rhoi’r sylfaen i chi lwyddo.