Enillodd Walid Musa Albuqai, dysgwr ESOL yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, wobr Gorffennol Gwahanol: Dyfodol a Rennir eleni yng Ngwobrau Ysbrydoli! Gwobrau Dysgu Oedolion, seremoni flynyddol a gydlynir gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Mae’r gwobrau’n dathlu cyflawniadau unigolion, prosiectau cymunedol a sefydliadau eithriadol yng Nghymru, sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad ac egni rhagorol i wella eu hunain, eu cymuned neu weithle trwy ddysgu.
Cafodd Walid Musa Albuqai ei fagu yn Syria ond cafodd ei orfodi i ffoi o’r wlad gyda’i wraig a’i dair merch ddeng mlynedd yn ôl oherwydd y rhyfel. Roedd wedi gweithio ar fferm pan oedd yn ifanc ac wedyn fel rheolwr warws a gweithiwr ffatri ond roedd wedi’i chael yn anodd cael swydd barhaol oherwydd y rhyfel parhaus.
Dywedodd Walid: “Oherwydd y sefyllfa yn Iwerddon, Libanus a Syria, rhoddodd y Cenhedloedd Unedig y dewis i deuluoedd fel ni i symud i Brydain. Ni wnaeth pawb symud, ond penderfynodd fy nheulu a finnau mai dyma’r peth iawn i’w wneud. Dywedwyd wrthym y byddem yn symud i Abertawe ac roeddwn i’n edrych ymlaen oherwydd nad oeddwn erioed wedi bod yng Nghymru o’r blaen. Rwyf wrth fy modd yma oherwydd y bobl a’r traethau hardd. Mae’n ddinas gyfeillgar iawn ac rwy’n ddiolchgar iawn mod i wedi dod o hyd i waith.”
Ychydig iawn o Saesneg oedd gan Walid pan gyrhaeddodd Abertawe. Roedd yn cael anhawster gyda gramadeg sylfaenol a strwythur brawddegau felly, gyda chymorth Cyngor Abertawe, dechreuodd astudio Saesneg Lefel Mynediad 1 Saesnig fel Ail Iaith (ESOL) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
“Prin iawn oedd fy Saesneg pan symudais i Brydain gyntaf. Fe wnaeth fy ngweithwyr cymorth yn EYST (Ethnic Youth Support Team) fy helpu i ac fe wnes i wirfoddoli mewn siop elusen leol i gael ymarfer fy Saesneg a gwneud ffrindiau gyda phobl yn y gymuned leol.” Meddai.
Drwy fynychu dosbarthiadau yn rheolaidd, astudio tu allan i’r dosbarth a manteisio ar gyfleoedd i ymarfer siarad Saesneg, gallodd Walid ddatblygu ei sgiliau iaith. Manteisiodd hefyd ar adnoddau ar-lein yn cynnwys gwersi gramadeg ac apiau i barhau i ddysgu tu allan i’w ddosbarthiadau.
“Mae fy merched yn 13, 9 a 6 oed. Maent yn mynd i ysgolion cyfrwng Saesneg ac maent hefyd wedi fy helpu i wella fy Saesneg. Maen nhw, ynghyd â fy ngwraig, yn fy ysbrydoli bob dydd ac maent wedi fy annog i wireddu fy mreuddwydion.
Mae Walid nawr wedi gorffen ESOL Lefelau 1 a 2 a gwnaeth cais am nifer o swyddi, yn cynnwys swydd gyrru bws gyda FirstBus. Roedd ei angerdd am yrru a’i sgiliau iaith yn amlwg iawn yn ei gyfweliad, a chafodd y swydd.
“Rwyf wrth fy modd yn gweithio fel gyrrwr bys. Yn ymarferol, nid oedd yr arholiad yn rhy anodd ond roedd y prawf damcaniaeth yn anodd. Fyddwn i ddim wedi medru gwneud y cyfweliad heb fy sgiliau mewn Saesneg. Cefais fy ngyrfa diolch i’r dosbarthiadau hynny.”
Mae Walid yn awr yn edrych i’r dyfodol ac yn gobeithio cwblhau ESOL Lefel 3 cyn ail-hyfforddi fel hyfforddwr gyrru. Dywedodd, “Byddwn yn hoffi annog pobl eraill i ddychwelyd i ddysgu a gwireddu eu huchelgais, pa bynnag mor heriol y gall ymddangos. Fy nghyngor yw gweithio’n galed a peidio byth rhoi lan. Does dim yn amhosibl os ewch amdani. Rwy’n gyffrous wrth feddwl i ble aiff fy nhaith â fi wrth i mi barhau i wneud fy ffordd tuag at fy nodau a gwneud gwahaniaeth i’r gymuned.”