Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn dathlu set gadarn o ganlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol Lefel 3 eto yn 2023.
Y gyfradd basio gyffredinol eleni ar gyfer Safon Uwch yw 98%, gyda 1391 o gofrestriadau arholiadau ar wahân. Roedd 35% o’r graddau hyn yn A*-A, 60% yn A*-B ac 82% yn A*-C.
Cyfradd pasio gyffredinol Safon UG yw 95%, gyda 74% o’r graddau hynny yn raddau A-C a 53% yn raddau A-B. Roedd 2119 o gofrestriadau arholiadau ar wahân ar gyfer Safon UG.
Mae canlyniadau galwedigaethol y Coleg hefyd yn gryf eto eleni gyda chyfradd pasio 97% ar draws cyrsiau Diploma Estynedig Lefel 3, gyda 38% o’r rheini yn cyflawni’r graddau uchaf.
“Rydyn ni’n hapus dros ben gyda’r canlyniadau hyn, mae’n adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai’r Pennaeth Mark Jones. “Mae hefyd, wrth gwrs, yn dyst i ymroddiad ein staff sy’n cefnogi ein dysgwyr yn ddiflino yn y dosbarth a’r tu allan i’r dosbarth.”
I’r myfyrwyr hynny sy’n ansicr ynghylch beth i’w wneud nesaf ar ôl eu canlyniadau, mae Mark yn cynnig y cyngor canlynol:
“Dewch i siarad â ni! Mae gyda ni lawer o staff yn y Coleg sy’n gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar y camau nesaf ar gyfer dysgwyr unigol. Er enghraifft, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch ac rydyn ni hefyd yn darparu cymorth cyflogadwyedd i’r rhai sydd am fentro i’r gweithle ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.”
Mae rhai o lwyddiannau’r myfyrwyr yn cynnwys:
Daniele Lucini – yn mynd i Gaergrawnt i astudio Gwyddorau Naturiol
Chloe Hazel – yn mynd i Rydychen i astudio’r Clasuron
Rachel Smith – yn mynd i Gaergrawnt i astudio Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg
Isabela Angeles – yn mynd i Warwig i astudio Mathemateg
James Duffy – yn mynd i Durham i astudio Gwleidyddiaeth
Megan Goodhall – yn mynd i Durham i astudio Daearyddiaeth
Harry Healings – yn mynd i Durham i astudio Ffiseg
Ella Kenny – yn mynd i Durham i astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg
Vritika Shrivastava – yn mynd i Fryste i astudio’r Gyfraith
Calvin Vaila – yn mynd i Fryste i astudio Economeg
Eve Winter – yn mynd i Gaeredin i astudio Llenyddiaeth Saesneg