Ar ddiwedd blwyddyn academaidd brysur iawn arall, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ei Ddiwrnod Lles blynyddol i staff ar 6 Gorffennaf.
Mae’r digwyddiad yn uchafbwynt i staff addysgu a chymorth ar draws pob campws, ac mae’n gyfle i fwynhau amrywiaeth o sesiynau blasu a gweithgareddau gyda chydweithwyr a ffrindiau.
Roedd yr amserlen eleni yn llawn dop gan gynnwys iacháu siamanaidd, therapi dŵr oer, garddio, pêl-bicl, adweitheg a bingo.
Yn ogystal roedd cyngor am ddim ar gael i staff ar ystod o faterion megis materion cyfreithiol, therapi adfer hormonau, iechyd a ffitrwydd, a chynllun Beicio i’r Gwaith y Coleg.
“Rydyn ni wedi’n plesio’n fawr gan yr adborth rydyn ni wedi’i gael o Ddiwrnod Lles 2023, gwelon ni dros 400 o aelodau staff yn cymryd rhan,” dywedodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Sarah King. "Roedd hi’n wych gallu cynnig pecyn mor amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys syrffio, Pilates a chwtsio cŵn therapi anwes Cariad – roedd rhywbeth at ddant pawb. Hoffwn i ddiolch i bawb a drefnodd weithgaredd gan gynnwys ein holl bartneriaid corfforaethol a chymunedol a ymunodd â ni i gefnogi’r digwyddiad hwn."
Cynhaliwyd y Diwrnod Lles ar derfyn blwyddyn lwydiannus iawn arall i iechyd a lles yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Ym mis Chwefror, cafodd Gwobr Aur Safonau Iechyd Corfforaethol y Coleg ei hailachredu am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Ym mis Mawrth, enillodd statws Achrediad Ystyriol o’r Menopos, i gydnabod ei waith parhaus yn codi ymwybyddiaeth o symptomau’r perimenopos a’r menopos, a’r gyfres o gymorth y mae wedi’i rhoi ar waith ar gyfer staff.
Ym mis Mai, sicrhaodd y Coleg wobr Efydd Stonewall hefyd i gyflogwyr cynhwysol LGBTQ+ blaenllaw.
Ac, o fewn y mis diwethaf, mae’r Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr CIPD Genedlaethol (Categori Menter Iechyd a Lles Orau y Sector Cyhoeddus/Trydydd Sector) am ei waith ar gymorth ac ymwybyddiaeth o’r menopos. Coleg Gŵyr Abertawe yw’r unig sefydliad yng Nghymru i gyrraedd y rhestr fer am y wobr nodedig hon.