Cynnal a Chadw Beiciau Lefel 2 - Prentisiaeth
Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
C&G
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn:
01792 284400 (Llys Jiwbilî)
E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sy’n ystyried gweithio yn y diwydiant Cynnal a Chadw Beiciau neu’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant ac yn ystyried cyflawni cymwysterau ffurfiol.
Mae modiwlau’n cynnwys:
- Cydosod ac addasu beiciau, ac alinio’r ffrâm
- Setiau llaw, gerau, brêcs ymylon – tynnu, ffitio, cydosod ac addasu
- Disgiau brêcs a gwaedu hydrolig
- Adeiladu olwynion
- Gwasanaethu hongiad
- Gwybodaeth o e-feiciau
- Iechyd a Diogelwch
- Arferion gweithdy
- Sgiliau Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Sgiliau Busnes
- Sgiliau Gwerthu.
Gwybodaeth allweddol
Addysgir y cwrs yn ein gweithdy arbenigol Cynnal a Chadw Beiciau.
Byddwch chi’n dod i’r Coleg ddau ddiwrnod y mis a byddwch chi’n treulio gweddill yr amser yn y gweithle perthnasol.
Bydd asesiadau’n cael eu cynnal yn ein gweithdy a gallen nhw gael eu cynnal yn eich gweithle hefyd.
Cymhwyster Lefel 3 Cytech Profession.
Bydd angen esgidiau diogelwch arnoch.