Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn falch o ddarparu amrywiaeth cynhwysfawr o gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch (AU), gyda’r nod o rymuso unigolion 19 oed a hŷn gyda’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer mynediad llwyddiannus i addysg uwch. P’un ai ydych yn ceisio dychwelyd i addysg ar ôl cael saib neu’n ystyried dechrau llwybr gyrfa newydd, mae ein cyrsiau Mynediad yn darparu’r sylfaen ddelfrydol ar gyfer eich taith addysgol!
Nodweddion allweddol ein Cyrsiau Mynediad i AU:
- Cydnabyddir hwy ar draws y wlad: Mae ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn rhan o’r rhaglen Mynediad i Addysg Uwch Cymru-gyfan, a gydnabyddir gan brifysgolion a sefydliadau addysg uwch ledled Cymru a Lloegr.
- Wedi’u teilwra i ddysgwyr sy’n oedolion: Wedi’u hanelu at fyfyrwyr hŷn o amrywiaeth o gefndiroedd addysgol, mae ein cyrsiau Mynediad yn darparu ar gyfer myfyrwyr hŷn sydd efallai heb gymwysterau traddodiadol neu addysg ffurfiol. Rydym hefyd yn deall bod amgylchiadau bywyd yn gallu amrywio, a dylai’r rhan fwyaf o amserlenni cyrsiau roi modd i chi gydbwyso’ch gweithgareddau addysgol ag ymrwymiadau teuluol ac eraill.
- Pynciau amrywiol: Rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau Mynediad, gan roi cyfleoedd ar gyfer diddordebau a dyheadau gyrfa amrywiol!
Pa gwrs Mynediad sy’n addas i’ch nodau gyrfa? Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau yn y pynciau canlynol:
- Busnes a Gwasanaethau Ariannol
- Gwyddoniaeth
- Gwyddor Iechyd
- Lles Cymdeithasol/Gwaith Cymdeithasol
- Nyrsio a Phroffesiynau Iechyd
- Nyrsio a Phroffesiynau Iechyd (dosbarth nos)
- Peirianneg (Cwrs newydd yn dechrau yn 2023!)
- Plismona (Cwrs newydd yn dechrau yn 2023!)
- Sgiliau Cwnsela a Seicoleg
- Y Gyfraith.
“Cyn dechrau cwrs Mynediad, roeddwn i’n gweithio ym maes gofal plant. Dewisais i astudio’r cwrs Mynediad i Waith Cymdeithasol oherwydd roeddwn i’n chwilio am rywbeth gwahanol yn fy ngyrfa, rhywbeth lle gallwn i symud ymlaen i gwrs gradd prifysgol. Dwi’n mwynhau pob agwedd ar y cwrs: dysgu pynciau newydd bob dydd a’r holl fodiwlau gwahanol rydyn ni’n eu hastudio, ond yn enwedig cymdeithaseg! Mae’r holl ddarlithwyr yn y Coleg yn gefnogol iawn a bob amser wrth law pryd bynnag mae angen cymorth arnon ni. Pan fydda i’n cwblhau’r cwrs, dwi’n bwriadu mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd, lle bydda i’n cael gradd gobeithio cyn symud ymlaen i yrfa mewn gwaith cymdeithasol. Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i bawb, yn enwedig os ydych chi eisiau newid gyrfa.”
- Jodie, Mynediad i Waith Cymdeithasol
“Dwi’n astudio Mynediad i Nyrsio, sy’n wych! Mae’n heriol iawn ac mae’n braf dysgu pethau newydd. Mae’r tiwtoriaid yn gymwynasgar iawn, rydyn ni’n gwneud pethau gwych yma ac mae’n amgylchedd cyfeillgar. Ar ôl i mi orffen y cwrs hwn, dwi’n bwriadu gweithio yn un o’r ysbytai yma yng Nghymru, efallai mewn ward feddygol. Dwi’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un a hoffai astudio nyrsio.”
- Bim, Mynediad i Nyrsio
Rydym hefyd yn deall efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ac amser paratoi ar rai myfyrwyr cyn dilyn y rhaglenni Mynediad i AU.
I’r myfyrwyr hynny, rydym yn cynnig cwrs Paratoi i Ddysgu rhan-amser chwe wythnos sy’n rhoi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen er mwyn cwblhau aseiniadau’n llwyddiannus ar lefel uwch. Rydym hefyd yn cynnig y cwrs blwyddyn, amser llawn Diploma Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach sy’n mynd i’r afael ag anghenion llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac yn rhoi hwb i’ch hyder. Mae’r ddau gwrs yn gallu bod yn gam tuag at raglenni Mynediad i AU.
Felly, beth sydd nesaf? Paratoi i gychwyn ar daith academaidd fuddiol sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’ch nodau ar gyfer y dyfodol. Dechreuwch eich taith drwy ddysgu rhagor a gwneud cais heddiw!