Coleg Gŵyr Abertawe oedd prif noddwr Duathlon Y Mwmbws unwaith eto eleni ar 25 Mawrth.
Yn ogystal â noddi’r digwyddiad, cafodd rai o fyfyrwyr Therapi Tylino Chwaraeon (Lefel 3 a 4) y Coleg gyfle i wirfoddoli ar y linell derfyn, gan leddfu rhai cyhyrau blinedig iawn.
Mae’r myfyrwyr yn gwirfoddoli mewn nifer o rasys trwy gydol y flwyddyn, gan ennill oriau gwerthfawr o brofiad ar gyfer eu hyfforddiant. Bu rhai myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 hefyd yn gwirfoddoli yn y digwyddiad, gan ennill profiad gwerthfawr o reoli digwyddiadau.
Cystadlodd 12 aelod o staff y Coleg yn y digwyddiad (Tîm GCA), gan ymuno â dros 170 o athletwyr o bob cwr o’r DU.
Cychwynnodd y gystadleuaeth am 8am fore dydd Sadwrn gyda gwyntoedd ffyrnig yn chwyrlio o bob cyfeiriad, a wnaeth pethau’n anodd i’r cystadleuwyr wrth iddynt fynd o amgylch y cwrs beicio - roedd gofyn iddynt drafod eu beiciau yn dda a defnyddio eu ffitrwydd.
Er gwaethaf y cwrs trafferthus, llwyddodd Tîm CGA i orffen y ras, ac maent bellach mewn safle da iawn ar gyfer gweddill y tymor.