Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill statws Achrediad Ystyriol o’r Menopos.
Mae hyn i gydnabod gwaith parhaus y Coleg i godi ymwybyddiaeth o symptomau’r perimenopos a’r menopos, a’r gyfres o gymorth y mae wedi’i rhoi ar waith i staff.
Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys Caffis Menopos rheolaidd, cyfleoedd i staff gwrdd ag arbenigwyr menopos, a seminarau ar sut i reoli symptomau. Yn fwyaf diweddar, cafodd staff a myfyrwyr gyfle i wisgo Menovest TM, sy’n efelychu’r teimlad o byliau poeth.
Mae Achrediad Ystyriol o’r Menopos, a sefydlwyd gan Henpicked: Menopause In The Workplace, yn cydnabod safonau uchel ac arferion sy’n cofleidio’r menopos yn y gweithle.
Mae Achrediad Ystyriol o’r Menopos yn cael ei gydnabod ym myd diwydiant a dyma’r unig achrediad sy’n gosod safonau clir y mae’n rhaid eu bodloni. Felly, mae’n wirioneddol ystyrlon ac yn cael ei ystyried gan lawer fel arwydd o ragoriaeth ar gyfer y menopos yn y gweithle.
Er mwyn cyflawni Achrediad Ystyriol o’r Menopos, caiff cyflogwyr eu hasesu gan banel annibynnol a rhaid iddynt ddangos tystiolaeth o’u heffeithiolrwydd mewn chwe maes allweddol, sef: diwylliant, polisïau ac arferion, hyfforddiant, ymgysylltu, cyfleusterau a gwerthuso.
“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyflawni’r achrediad hwn,” meddai Rheolwr Lles y Coleg, Lorraine Evans. “I lawer o bobl, pan maen nhw’n meddwl am y menopos maen nhw’n meddwl am byliau poeth yn unig. Yr hyn rydyn ni wedi ceisio ei wneud fel sefydliad yw codi ymwybyddiaeth o’r symptomau eraill – ac mae yna ddwsinau ohonyn nhw – a rhoi cymorth ymarferol i unigolion fel eu bod nhw’n gallu rheoli’r cyfnod trosiannol hwn o fywyd cystal ag y gallan nhw.”
I wybod rhagor am Achrediad Ystyriol o’r Menopos, ewch i www.menopausefriendly.co.uk