Cafwyd wythnos llawn digwyddiadau i ddathlu Cymreictod yn y Coleg o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi.
Cawsom fore coffi ar bob campws, gyda chacennau hyfryd gan un o’n myfyrwyr galwedigaethol Lefel 3 Busnes, Heledd Hunt sydd a busnes ei hun ar instagram @helsbakescakes. Wrth gwrs roedd digonedd o bice ar y maen am ddim i’n myfyrwyr a staff hefyd!
Cafwyd perfformiadau gan Dafydd Mills o Menter Abertawe ar gampws Llwyn y Bryn a Cwrt Jiwbili a Ed Holden aka Mr Phormula bitbocsiwr a rapiwr Cymraeg ar gampws Tycoch a Gorseinon.
Bu Andrew Tamplin yn rhoi tips rheoli straen yn y gweithle I staff ar Teams, a Maria Pride Hyfforddwr Personol yn rhoi ein myfyrwyr chwaraeon ar waith, wrth ddangos sut mae rhedeg busnes hyfforddi cwbl ddwyieithog a dod a’r Gymraeg mewn i sesiwn hyffrorddi mewn ffordd syml. Mi oedd pawb allan o wynt erbyn y diwedd!
Aethon a criw o fyfyrwyr Busnes draw i Yr Egin ble mae llu o fusnesau bach creadigol wedi sefydlu, a Phencadlys S4C. Yn y prynhawn aethom at gwmni Hufen Iâ Franks i ddysgu am sut mae’r Gymraeg yn rhoi ‘USP’ i'r busnes ac yn rhoi Cymru ar y map. Daeth Rob Jones Swyddog Marchnata Rhyngwladol i Croeso Cymru i siarad gyda chriw Teithio a Twrisitaeth am y gwaith mae e’n gwneud wrth deithio’r byd yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad twrisiaidd.
Diolch i staff y Vanilla Pod am roi dau ginio Cymraeg ymlaen a blasus iawn oedd y bwydydd lleol Cymreig yn edrych a blasu!
Mae dathliadau i ddod ar gampws Broadway gydag Emma Jenkins, cyn ymgeisydd Miss Universe, Nia Roberts gyda’r adran berfformio a Chymraeg, a Laura Karadog i roi sesiynau ioga a meddwlgarwch.
“Diolch yn fawr iawn i’r holl staff a gefnogodd yr wythnos a chael hwyl wrth wneud hynny,” meddai Anna Davies, Rheolwr Cymraeg y Coleg. "Dwi’n meddwl ein bod wedi llwyddo cael amrywiaeth o weithgareddau at ddant pawb, a hoffwn ddiolch i Sian a Helen hefyd o’r Tîm Cymraeg am eu help drwy’r wythnos, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r diwrnod ymysg y myfyrwyr a staff."