Croesawodd y myfyrwyr a’r staff arlwyo y cyn-fyfyriwr arlwyo, Nick Jones, yn ôl i’r Coleg i arddangos ei sgiliau coginio i’r myfyrwyr mis diwethaf.
Darparodd Nick, a dechreuodd astudio Diploma mewn Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol Lefel 1 a gorffen gyda chwrs Diploma mewn Coginio Proffesiynol Uwch (Cegin a Phantri) lefel 3, arddangosiad coginio gydag Academi Fforwm y Cogyddion.
Mae Fforwm y Cogyddion yn rhoi modd i golegau arlwyo gael mynediad at gynnwys, cogyddion a fframwaith Fforwm y Cogyddion. Maint yn trefnu arddangosiad coginio gan gogydd proffesiynol yn y Coleg bob dydd Llun. Mae’r Coleg wedi cael llawer o gogyddion proffil uchel fel Hywel Griffiths, Prif Gogydd ym Mwyty’r Beach House, a Dan Lee, enillydd Master Chef the Professionals.
Mae Nick Jones wedi gweithio mewn gwesty moethus yn y Cotswolds, The Fish Hotel, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yn The Britannia Inn, tafarn gourmet ym Mro Gŵyr.
Mae’n cofio ei amser yn y Coleg yn annwyl “Dechreuais i ddysgu am sgiliau cyllell a chwympais i mewn cariad â choginio, a gallwn i weld fy hun yn datblygu. Hoffwn i fod wedi gwrando mwy ar yr ochr theori, ond hyd yn oed hyd heddiw mae’r darlithwyr yn dal i gynnig cymorth ac yn cysylltu â mi, 10 mlynedd yn ddiweddarach.”
Ychwanegodd “mae’n braf rhoi yn ôl, a helpu myfyrwyr i symud ymlaen â’u dysgu.”
Meddai’r darlithydd Arlwyo, Ioan Lodwig, “Roedd yr adran letygarwch wrth ei bodd yn gweld y cyn-fyfyriwr yn dychwelyd i’r Coleg ac yn arddangos ei seigiau i fyfyrwyr presennol. Mae arddangosiadau Fforwm y Cogyddion yn cyflwyno amrywiaeth eang o wybodaeth ac arddulliau coginio i fyfyrwyr a fydd yn gwella eu dysgu ymhellach ac yn eu hysgogi i gyflawni.”
Ychwanegodd “Mae llawer o’r cogyddion sy’n arddangos eu gwaith yn annog myfyrwyr crefftau coginio i ddysgu ar bob achlysur ac i geisio gwybodaeth, trwy ddosbarthiadau ymarferol neu theori, i wella’n barhaus ar bob cyfle.”
“Dywedodd Nick Jones wrth y myfyrwyr presennol ei fod yn gwerthfawrogi safon yr addysg, y dysgu a’r sgiliau a gafodd yn y Coleg a bod y sgiliau hynny wedi aros gydag ef drwy gydol ei yrfa. Cwblhaodd Nick Jones dair blynedd lwyddiannus o addysg yn y Coleg, gan orffen trwy gyflawni ei gwrs Pantri a Chrwst Lefel 3."
Yma cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau arlwyo.