Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Beacon mawreddog Cymdeithas y Colegau (AoC) yng nghategori Gwobr Rhyngwladoliaeth y Cyngor Prydeinig.
Mae Gwobrau Beacon AoC yn dal ac yn dathlu’r arferion gorau a mwyaf arloesol ymhlith colegau addysg bellach y DU. Nod y rhaglen wobrwyo yw dangos a hyrwyddo effaith bellgyrhaeddol colegau ar eu myfyrwyr a’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu. Bydd yr astudiaethau achos clodwiw a buddugol yn cael eu defnyddio i gynyddu dealltwriaeth o gyfraniad colegau at bolisi sgiliau addysgol a datblygiad economaidd a chymdeithasol.
Ar gyfer 2022-23 mae 12 categori o wobrau. Caiff y gwobrau eu beirniadu gan aseswyr annibynnol, gyda Phrif Aseswr annibynnol yn sicrhau cysondeb ar draws y categorïau. Mae pob cais cychwynnol yn ddienw er mwyn sicrhau didueddrwydd. Yna mae aseswyr yn ymweld â’r colegau hynny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, er mwyn cymharu ‘tystiolaeth ar lawr gwlad’ y mentrau.
Digwyddodd yr ymweliad rhithwir â’r Coleg ar 17 Ionawr gyda phedwar aseswr. Y prif aseswr oedd Marguerite Hogg, Uwch Reolwr Polisi yn AoC, gyda Viktoriia Teliga, Uwch Ymgynghorydd yn y Cyngor Prydeinig, Janet Stevens, Pennaeth Marchnata Strategol yng Ngholeg Ynys Wyth, ac Ann Holland, Rheolwr Gweithrediadau Rhyngwladol yng Ngholeg Burton a De Swydd Derby. Trefnwyd amserlen orlawn i arddangos gweithgareddau rhyngwladol y Coleg, gyda staff a myfyrwyr yn cymryd rhan.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y Seremoni Wobrwyo ddydd Llun 27 Chwefror yn Llundain.
Dywedodd Ruth Owen Lewis, Pennaeth yr Adran Ryngwladol, “Dwi wrth fy modd bod y Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer yn y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Rhyngwladoliaeth. Mae rhyngwladoliaeth yn hanfodol ac wrth galon Coleg Gŵyr Abertawe. Ein nod yw dod â’r byd i’r Coleg, a mynd â’r Coleg i’r byd, gan ryngwladoli’r dysgwr, y staff, yr ystafell ddosbarth a’r cwricwlwm yn eu tro – a chreu coleg gwirioneddol fyd-eang.”