Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe Ragbrawf Technoleg Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar Gampws Tycoch.
Roedd dros 80 o fyfyrwyr – o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Cambria, Coleg Gwent, Coleg Sir Gâr, Coleg y Cymoedd, Grŵp NPTC, Coleg Dewi Sant ac Ysgol Pen-y-bryn – wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau ar y diwrnod gan gynnwys codio, seiberddiogelwch, rhwydweithio, cymorth TG a sgiliau cynhwysol.
“Roedden ni’n falch iawn o gynnal y Rhagbrawf Technoleg a chroesawu dysgwyr o bob rhan o Dde Cymru i hogi eu sgiliau TG a chystadlu yn erbyn eu cyfoedion talentog gyda’r siawns o ennill medal,” meddai’r Rheolwr Maes Dysgu, Darren Fountain.
“Yn ogystal â’r cystadlaethau, cawson nhw gyfle i ymlacio a chymdeithasu gyda’i gilydd yn eu hamser segur, gan fwynhau rhoi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau a gynhaliwyd gan ein staff Technoleg a’n dysgwyr. Roedd y rhain yn cynnwys ein hefelychydd rasio F1, sialens cynnal a chadw cyfrifiadur, cynyrchiadau Green Screen a hyd yn oed sialens ystafell ddianc seiber dan ofal Tarian ROCU.”
Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid Cymru herio, meincnodi a gwella eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.
Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr, mae’n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy’n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.
Bydd canlyniadau rowndiau diweddar digwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cael eu cyhoeddi ar 9 Mawrth.