Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ac Wythnos Prentisiaethau Cymru 2023.
Cynhaliwyd y digwyddiad arbennig, dan ofal Ross Harries o BBC Cymru Wales Scrum V Live, ar Gampws Tycoch i anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol prentisiaid a phartneriaid cyflogwyr y Coleg o bob rhan o Gymru a Lloegr.
“Heddiw, mae prentisiaethau’n flaenoriaeth allweddol i lawer o gyflogwyr o ran bodloni’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu a thyfu eu busnesau, a dwi wrth fy modd bod y Coleg, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf, wedi gallu cynyddu ein darpariaeth a’n cymorth mewn ymateb i’r galw hwn,” meddai’r Pennaeth Mark Jones. “Yn wir, mae’n llai na phedair blynedd ers i’r Coleg a Chyngor Abertawe ddod â’u rhaglenni ar wahân ynghyd – o dan arweiniad y Coleg – ac ers hynny mae nifer y rhaglenni a’r prentisiaid wedi dyblu.
“Ond ar yr un pryd, dwi’n falch iawn o adrodd bod ansawdd y ddarpariaeth wedi parhau i wella hefyd.
“Yn ogystal, mae ein prentisiaid, ein staff, a’n rhaglenni wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, Gwobrau Prentisiaethau’r DU a Gwobrau Colegau AB y DU.”
Diolch yn fawr i Fand Jazz Campws Gorseinon, dan arweiniad Simon Prothero, am ddarparu’r adloniant ar y dechrau, ac i’n myfyrwyr Celfyddydau Cynhyrchu yn y Theatr Lefel 3, dan arweiniad Adrian Hocking, am eu gwaith gwych ar y set, y goleuo a’r sain.
Roedd y digwyddiad yn rhan o amrywiaeth eang o weithgareddau a drefnwyd gan y Coleg i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ac Wythnos Prentisiaethau Cymru.
Ar 8 Chwefror, cynhaliodd y Coleg ei noson agored gyntaf erioed ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn prentisiaethau. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, gyda dros 200 yn bresennol i sgwrsio â darlithwyr a chyflogwyr.