Mae Hyrwyddwr Menter Coleg Gŵyr Abertawe, Claire Reid, yn mynd i Gyprus fis nesaf fel rhan o astudiaeth ryngwladol, yn edrych ar sgiliau entrepreneuraidd pobl ifanc.
Bydd y daith, sy’n cael ei threfnu gan y Cyngor Prydeinig, yn cael ei chynnal dros bum niwrnod ac mae’n cynnwys athrawon a darlithwyr o amrywiaeth o leoliadau addysgol o bob rhan o’r DU. Byddant yn ymweld ag ysgolion, sefydliadau anllywodraethol a busnesau yn rhanbarth Nicosia.
Bydd Claire, sy’n ddarlithydd busnes ac yn Hyrwyddwr Menter, yn teithio i’r wlad Ewropeaidd am bum niwrnod a dywedodd “mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau y gallaf eu rhannu â lleoliadau eraill ledled Cymru a thu hwnt.”
Nod y daith yw dod â gwybodaeth yn ôl i fyfyrwyr a staff y Coleg a thynnu sylw at y cyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael iddynt.
Dywedodd y Rheolwr Sgiliau, Fiona Neill “Mae Claire yn angerddol am ei rôl fel hyrwyddwr menter. Mae’n gweithio gyda dysgwyr ar draws y Coleg i’w helpu i wireddu eu potensial fel entrepreneuriaid ac yn sicrhau eu bod yn cael y cymorth a’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw.”
Ychwanegodd “Yng Nghyprus, bydd Claire yn cael cyfleoedd i rwydweithio a chydweithio ag addysgwyr menter eraill ar amrywiaeth o syniadau a phrosiectau cyffrous a dod â nhw yn ôl i’r Coleg.”