Hyfforddiant Haciwr Moesegol
Trosolwg
Bwriedir y cwrs ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Diogelwch a Swyddogion Gweinyddol.
Mae’r cwrs proffesiynol Hacio Moesegol hwn yn gyflwyniad i’r cysyniadau, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â hacio moesegol. Mae gan fusnesau ddibyniaeth gynyddol ar ddiogelwch TG, oherwydd cymhlethdod cynyddol systemau a rhwydweithiau, ac yn enwedig y defnydd o ddyfeisiau symudol a diwifr. Mae gweithwyr diogelwch proffesiynol yn ein rhybuddio am y nifer gynyddol o hacwyr a’u gwybodaeth fanwl am sut i oresgyn waliau tân a phrotocolau diogelwch safonol, fel meddalwedd gwrthfaleiswedd.
Bydd y cwrs hyfforddi dau ddiwrnod hwn yn datblygu eich ymwybyddiaeth o broblemau diogelwch TG cyffredin y mae hacwyr yn dibynnu arnynt i gael mynediad, er mwyn gallu osgoi ac atal ymosodiadau yn well.
Mae ein hyfforddiant yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r mathau o ymosodiadau a dulliau a ddefnyddir gan hacwyr, gan eich helpu i ddeall a chael profiad o adnabod, trechu ac atal bygythiadau i’ch systemau. Byddwch yn dod i gysylltiad â thechnolegau ac offer meddalwedd ac yn dangos sut y gellir eu defnyddio mewn senarios bywyd go iawn.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cynyddu eich gwybodaeth o risgiau a gwendidau, y dulliau a ddefnyddir i fanteisio arnynt, yn ogystal â chael dealltwriaeth ehangach o seiberddiogelwch, o brofion hacio i ysgrifennu adroddiadau asesu. Trwy hyfforddiant dan arweiniad hyfforddwr ac ymarferion ymarferol yn y labordy, byddwch yn ennill y sgiliau i ymuno â’r diwydiant neu i wella’ch gyrfa fel haciwr moesegol. Fodd bynnag, mae unrhyw un mewn rôl seiliedig ar ddiogelwch TG sy’n dymuno deall meddylfryd ymosodwyr seiber yn gallu dilyn y cwrs hwn, er mwyn asesu gwendidau eu system yn well a diogelu’ch gwybodaeth, er gwaethaf yr amgylchedd seiberddiogelwch sy’n datblygu’n gyson.
01/02/23
Gwybodaeth allweddol
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ond dylech fod yn gweithio yn y diwydiant.
Addysgir y cwrs dros ddau ddiwrnod.
Addysgir y cwrs ar-lein, dan arweiniad hyfforddwr mewn amgylchedd ystafell ddosbarth rithwir.
Nid oes arholiad ar y cwrs hwn. Cewch dystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs.
Mae cyllid CDP ar gael i dalu cost y cwrs. I wybod rhagor ac i weld a ydych yn gymwys, ewch i https://gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/cyllido-eich-astudiaethau/cyfrifon-dysgu-personol