Bu myfyrwyr Tecstiliau UG a Lefel A Coleg Gŵyr Abertawe yn mwynhau gweithdy gwehyddu gyda Llio James, gwehydd Cymreig sydd â diddordeb mewn datblygu'r berthynas rhwng gwehyddu llaw a'r diwydiant gwlân traddodiadol yng Nghymru.
Wrth archwilio'r teimlad o berthyn i wlad a diwylliant, rhan lliw o'r broses ddylunio, wrth iddi edrych ar gyfran, graddfa a siapiau geometrig wrth wehyddu brethyn.
Bu’r gweithdy yn gyfle i fyfyrwyr archwilio natur gwasgu felt a gwehyddu â llaw gan ddefnyddio gwlân naturiol, edau a gwrthrychau a ganfuwyd i ystyried gwead, lliw a siapiau.
“Gwnaeth y myfyrwyr greu amrywiaeth o ddarnau tecstilau a all gefnogi a ffurfio syniadau newydd i brosiectau creu yn y dyfodol. Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i brofi a chysylltu â gwaith gwneuthurwr proffesiynol sydd yn gweithio yn y diwydiant tecstilau.” Meddai Sian Fisher, Swyddog Ymgysylltu’r Gymraeg. “Mae hwn hefyd yn gyfle i’r myfyrwyr gwrdd a siaradwr Cymraeg o’r diwydiant a sut mae’r iaith a’r diwylliant yn dylawndau ar ei gwaith.”
Ewch i wefan Iaith Gymraeg y Coleg i ddarganfod sut i gymryd rhan yn ein gweithgareddau Cymraeg.