Rydym wedi bod yn hynod ffodus o gael Adam Jones aka Adam yn yr Ardd, garddwr o fri yn dod i ddysgu ein criw garddio Cymraeg. Mae Adam yn gweithio gyda myfyrwyr garddio Lefel 1 a 2 a phwrpas y sesiynau wythnosol hollol ymarferol hyn yw dod a’r Gymraeg yn fyw mewn maes sydd o ddiddordeb galwedigaethol. Mae’r sesiynau wedi cael eu teilwra yn gyfan gwbl bob wythnos ac yn dangos i’n myfyrwyr bod y Gymraeg yn fyw tu allan i’r stafell ddosbarth ac ym myd gwaith.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weld cynnydd y prosiect yma dros y flwyddyn; a gweld yr ardd yn Hill House yn ffynnu wrth i’r coed, planhigion a’r adeiladau ddod at ei gilydd i greu cynllun gardd hyfryd. “Hoffwn estyn diolch o galon i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am roi ffydd a chyllid i ni ddatblygu’r cynllun cyffrous yma, am I Adam roi o’i amser, ac i’r Arweinydd Cwricwlwm Ian Chriswick am groesawu Adam heb os.” Meddai Anna Davies Rheolwr y Gymraeg “Heb y gefnogaeth yma ni fyddwn wedi gallu cynnig y cwrs yma yn Gymraeg I’r dysgwyr. Mae’n dangos beth all cydweithio da a chreu rhwydweithiau llwyddiannus wneud i drawsnewid y cynnig rhagweithiol yma i fyfyrwyr.”