Dyma gyflwyno ein llysgenhadon Cymraeg newydd ar gyfer 2022/23!
Mae Olivia Lane ac Imogen Morris yn astudio Safon Uwch Iechyd a Gofal, gan gyflwyno rhai eflennau o’r gwaith yn Gymraeg.
Mae Morgan Rees-Ruault ar gwrs Uniformed Public Services ac yn cynrychioli Campws Tycoch.
Heledd Hunt o Gampws Gorseion ac yn astudio cwrs galwedigaethol Busnes, a Davie Griffin yn astudio Cyfryngau Creadigol.
Mae Seren Morka, River Grant a Rhianwen Rees-Jarman yn astudio amrwyiol bynciau Safon Uwch hefyd.
Eu prif rôl fel llysgenhadon yw anog myfyrwyr i gymryd mantais o’r cyfleoedd sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Rydym yn hynod gyffrous i allu cyhoeddi ein bod wedi penodi 7 o lysgenhadon newydd ar gyfer 2022/23. Mae cael criw o bobl ifanc brwdfrydig yn cydweithio gyda ni i hyrwyddo cyfleoedd yn Gymraeg yn gymorth mawr o ran rhoi darlun positif o bwysigrwydd y Gymraeg.” meddai Anna Davies, Rheolwr y Gymraeg.
Gellir dilyn anturiaethau ein llysgenhadon â gweld lluniau’r unigolion ar ein gwefan ac ar dudalen Instagram: @cymraeg_cga_gcs