Mae’r Swyddfa Ryngwladol wedi derbyn newyddion ardderchog – roedd ei chais i Raglen Taith Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus.
Roedd y cais, sy’n werth ychydig dan £300,000, yn cynnwys cyfnewidiadau dysgu i Bortiwgal, Ffrainc, Tsieina, Canada, ac – am y tro cyntaf – cyllid ar gyfer cyfnewidiad gan ein partneriaid yn Chongqing, Tsieina i ddod â’u myfyrwyr nhw i ni yma. Yn ogystal â’r rhain, mae’n cynnwys ymweliadau paratoadol i staff â’r Unol Daleithiau, yr Iseldiroedd a Fiet-nam er mwyn datblygu partneriaethau newydd, a chryfhau’r partneriaethau sydd eisoes gyda ni.
Mae’r adran Chwaraeon yn hapus iawn o glywed y newyddion hyn, gan fod ganddynt bellach digon o arian i fynd â 3 o fyfyrwyr yr Academi Bêl-droed i wersyll hyfforddi Sport Lisboa e Benfica (SLB), lle byddant yn cael cyfle i adeiladu ar eu perthynas waith wych â Chlwb Pêl-droed Benfica. Am y tro cyntaf erioed, bydd myfyrwyr Gradd Sylfaen sy’n astudio Datblygu a Rheoli Chwaraeon yn cael ymweld â’r clwb, lle byddant yn dysgu am fethodoleg hyfforddi SLB, yn ennill sgiliau newydd mewn prosesau hyfforddi ac yn datblygu dealltwriaeth o amgylcheddau cystadleuol a diwylliannol.
Bydd y cyllid hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i’n Hadran Electroneg, sy’n cydnabod yr angen i greu cysylltiadau rhyngwladol at ddibenion cydweithio. Mae hyn yn hollbwysig mewn perthynas â chreu cylchedau, dysgu a rhannu technegau gweithgynhyrchu ac amseroedd arwain y gadwyn gyflenwi. Gyda digon o gyllid i anfon 10 myfyriwr i Sefydliad Galwedigaethol Changzhou yn Tsieina, bydd yr adran yn medru parhau i hybu gwersi a ddysgwyd gan gystadlaethau WorldSkills.
Mae ein Tîm Arwain a Rheoli newydd ymuno â’r broses gyfnewid rhyngwladol, a byddant yn mynd ag 20 o fyfyrwyr i Ysgol Fusnes EM Normandie yn Ffrainc. Mae ein Tîm Effeithiau Gweledol hefyd wedi cysylltu â Lost Boys School of VFX, Vancouver, ac maent yn bwriadu mynd â 4 phedwar myfyriwr yno am dair wythnos. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddysgu am offer gorau’r diwydiant a’u defnyddio, yn ogystal â derbyn hyfforddiant gan arbenigwyr.
Yn dilyn Brexit a phenderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â pharhau â rhaglen Erasmus+, mae’r Swyddfa Ryngwladol yn awyddus i gaffael a defnyddio ffrydiau cyllido eraill, er mwyn parhau i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni ar gyfer ein myfyrwyr.
Bydd cyllid Taith yn darparu cyfleoedd gwych i ddysgwyr, a thrwy weithio gyda phartneriaid newydd a phresennol, byddant yn cael cyfle i fynd ar deithiau rhyngwladol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu ein myfyrwyr drwy wella perfformiad a hunan-barch, a fydd, yn ei dro, yn arwain at gynnydd yn eu cyflogadwyedd. Rydym hefyd yn gwybod o’r cyfnewidiadau presennol rydym yn cynnig ochr yn ochr ag Adran Cerbydau Modur yn yr Iseldiroedd, a’n hadran Peirianneg Electronig yn yr Almaen, bod y profiadau a gynigir yn gwella sgiliau entrepreneuraidd, sgiliau hunangyflogaeth a chymhelliant myfyrwyr.