Wrth fynd i’r afael â chamsyniadau hen ffasiwn, fe wnaeth Mark Jones, pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, nodi sut a pham mae colegau wedi rhoi pwyslais ar wneud yn siŵr bod cymorth wedi’i deilwra ar gael i bob myfyriwr.
Mae’n ddwy flynedd a mwy ers dechrau’r pandemig ac rydym eisoes wedi gweld effeithiau hirdymor cyfnodau clo, ymyrraeth yn y dysgu a chyfnodau o ynysu ar bobl ifanc. Yr hyn y mae covid-19 wedi’i ddysgu i ni, ynghyd â sefydliadau academaidd eraill ledled y wlad, yw bod angen cymorth unigol i ddysgwyr nawr yn fwy nag erioed.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe bob amser wedi gwarantu cymorth unigol i’w ddysgwyr, trwy gynnig amrywiaeth o raglenni, gan gynnwys cymorth un-i-un gan gynghorwyr a llwybrau dilyniant megis prentisiaethau, cyflogaeth ac addysg uwch. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn adnoddau ychwanegol i wella ac ehangu’r gwasanaethau hyn ymhellach dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gefnogi myfyrwyr yn well, wrth iddynt ymdopi ag ansicrwydd a heriau’r pandemig.
Fodd bynnag, er bod colegau eraill ledled y wlad yn rhannu’r un weledigaeth â ni, mae llawer o bobl yn meddu ar gamsyniadau ynghylch y cymorth sydd wedi’i deilwra a gynigir gan sefydliadau academaidd i’w dysgwyr. Mae’r camsyniadau hyn yn anghywir.
I’r mwyafrif, mae dechrau taith fel myfyriwr yn gyfuniad cyffrous o gwrdd â phobl newydd, dysgu pynciau newydd a phrofi amgylcheddau academaidd newydd ac aeddfed. Er hyn, rydym yn gwybod y gall fod yn brofiad anodd yn ogystal. Dyma pam rydym yn sicrhau bod pob dysgwr sy’n ymuno â ni yn derbyn cymorth gan gynghorydd dynodedig o’r cychwyn cyntaf.
Cymorth un-i-un i fyfyrwyr
Mae gennym dros 50 o staff o fewn y coleg sy’n canolbwyntio’n unswydd ar ddarparu cymorth i fyfyrwyr. Mae rhai o’r staff hynny’n sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn help ac arweiniad ar faterion sy’n gysylltiedig â lles, cadw’n heini, bwyta’n iach, sicrhau bod eu tocynnau bws/trên yn cael eu diweddaru. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth i fyfyrwyr am yr opsiynau cyllid sydd ar gael iddynt. Mae staff eraill ar gael i helpu gyda phrofiadau a materion personol nad ydynt yn ymwneud â’r coleg.
Ochr yn ochr â’n pecyn cymorth, mae gennym gynghorwyr iechyd ar gael sy’n medru cynnig cymorth mewn perthynas â materion meddygol, yn ogystal â chynghorwyr iechyd sy’n cynnig cymorth i fyfyrwyr.
Pontio’r bwlch rhwng cymorth academaidd a lles
Mewn ymgais ychwanegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i bontio’r bwlch rhwng cymorth academaidd a lles, rydym wedi penodi hyfforddwyr bugeiliol i weithio i’r Coleg.
Mae hyfforddwyr bugeiliol yn helpu myfyrwyr o fewn y cwricwlwm, gan sicrhau eu bod yn cadw trefn ar eu haseiniadau, mynychu sesiynau adolygu neu baratoi ar gyfer eu camau nesaf e.e. prifysgol, prentisiaethau neu geisiadau am swyddi.
Yn academaidd rydym yn annog ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn a symud ymlaen i ba bynnag lwybr sy’n mynd a’u pryd. Ond nid yw’n syndod bod y pandemig wedi effeithio ar y ffordd mae myfyrwyr yn dysgu ac yn paratoi ar gyfer eu dyfodol, yn enwedig mewn perthynas ag arholiadau.
Rydym wedi cyflwyno rhaglenni cymorth arholiadau i ddysgwyr nad ydynt erioed wedi sefyll neu baratoi ar gyfer asesiadau ffurfiol.
Yn y pen draw, gall arholiadau gael effaith ar lwybrau a gymerir yn y dyfodol, felly rydym am sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod ar gyfer unrhyw senario, i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn ar gyfer sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.
Rhaglenni paratoi ar gyfer y brifysgol
Mae’r Coleg hefyd wedi ehangu ei ddarpariaeth rhaglenni paratoi ar gyfer y brifysgol, gan fod llawer o brifysgolion wedi newid eu gofynion mynediad oherwydd y pandemig; arholiadau mynediad, cyfweliadau cychwynnol ac ati.
Yn ogystal â’n rhaglen Rhaglen Anrhydeddau, rydym yn parhau i gefnogi myfyrwyr gyda’u ceisiadau i astudio ym mhrifysgolion gorau’r DU, gan gynnwys sefydliadau Grŵp Russell.
Mae cefnogi ein myfyrwyr wedi bod yn un o’n gwarantau ers y cychwyn cyntaf. Byddwn yn parhau i ffocysu ar hyn yn dilyn y pandemig, ac yn ystyried anghenion cynyddol ein myfyrwyr, wrth iddynt baratoi ar gyfer camau nesaf eu bywydau.