Mae cariad at ddata yn helpu un o gyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i chwarae rhan annatod yn y GIG, ar ôl i’w choleg ei chynorthwyo i ddilyn prentisiaeth ddelfrydol er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil y pandemig.
Mae Laurice Keogh (19) o Gasllwchwr, Abertawe, wedi bod â’i bryd ar yrfa mewn data ers pan oedd yn ifanc. Heddiw, mae’r awydd hwnnw wedi arwain at ddechrau gyrfa fel prentis gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), gan helpu i newid y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu.
Ers iddi astudio TG gyntaf yn yr ysgol, mae Laurice wedi mwynhau dod o hyd i batrymau, straeon a chael gwybodaeth newydd o rifau ac ystadegau. A phan awgrymodd ffrind i’r teulu y gallai hi ddefnyddio’r sgil honno i wasanaethu’r GIG, roedd hi’n awyddus i gyrraedd y nod penodol hwnnw.
Er bod llawer o lwybrau i swyddi mewn data yn bodoli, roedd Laurice yn benderfynol o gychwyn ei gyrfa cyn gynted â phosibl. Sylweddolodd yn fuan mai Coleg Gŵyr Abertawe fyddai ei cham cyntaf i sicrhau ei phrentisiaeth ddelfrydol.
Dechreuodd taith Laurice ym mis Medi 2019 pan ymunodd â’r Coleg i astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), Hanes a Saesneg. Byddai’r cymwysterau hyn yn rhoi modd iddi symud ymlaen i sicrhau prentisiaeth data, ond yn fuan wedyn daeth y pandemig i i fygwth amharu ar y daith honno.
Gan fod y cyfnodau clo yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ledled y wlad drosglwyddo i ddysgu o bell, sicrhaodd Coleg Gŵyr Abertawe fod Laurice a’i chyd-fyfyrwyr yn gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth ychwanegol ac amser un-i-un gyda thiwtoriaid.
Drwy gymorth tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe roedd Laurice yn gallu archwilio amrywiaeth o gyfleoedd prentisiaeth a chyflogaeth, yn ogystal â chael cymorth gyda cheisiadau am swyddi a hyfforddiant mewn ffug gyfweliadau. Bu’r cymorth hwnnw’n amhrisiadwy pan ddaeth yr amser i Laurice wneud cais am brentisiaeth gydag IGDC.
Wedi’i sefydlu ym mis Ebrill 2021, disodlodd IGDC Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac mae data’n allweddol i’w waith i ddarparu gwybodaeth sy’n gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu a’u defnyddio gan gleifion.
Yn 2022, talodd gwaith caled Laurice a’r cymorth a gafodd gan Goleg Gŵyr Abertawe ar ei ganfed wrth iddi sicrhau prentisiaeth gydag IGDC.
Heddiw, yn ogystal â mynychu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae Laurice yn gweithio fel prentis yn adran gwasanaethau gwybodaeth IGDC lle mae’n troi data mawr a gasglwyd o bob rhan o GIG Cymru yn wybodaeth a all ddod â gwelliannau mawr i’r ffordd rydym i gyd yn cael mynediad at wasanaethau triniaeth a gofal.
Wrth sôn am ei thaith i sicrhau swydd ei breuddwydion, dywedodd Laurice Keogh: “Gyrfa mewn data yw fy nod ers blynyddoedd ac roeddwn i’n awyddus i ddechrau arni cyn gynted â phosibl. Roedd prentisiaeth yn gwneud synnwyr i mi, a phan glywais i am y cyfleoedd oedd ar gael gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru, roeddwn i’n gwybod mai Coleg Gŵyr Abertawe oedd fy llwybr gorau i’r yrfa roeddwn i eisiau ei chael.
“Roeddwn i’n poeni bod y pandemig yn mynd i darfu ar fy nghynlluniau, ond roedd y cymorth oedd ar gael gan y Coleg yn golygu y gallwn i barhau gyda fy astudiaethau yn ddi-dor. Roedd y cymorth hwnnw, ac yn enwedig yr help a ges i gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol mor bwysig. Diolch i’r timau hynny, roeddwn i’n teimlo’n barod i wneud cais am brentisiaethau a chyfweliadau sy’n gallu bod yn frawychus. Dwi’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a oedd mor bwysig i’m helpu i gael y swydd roeddwn i eisiau ers blynyddoedd.”
Heddiw, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cyflogi dros 50 o gynghorwyr cymorth wedi’u neilltuo i ddarparu cymorth un-i-un i fyfyrwyr, sydd wrth law i helpu gyda materion coleg a materion sydd heb fod yn gysylltiedig â’r coleg. Mae hyfforddwyr bugeiliol hefyd wrth law i gynorthwyo myfyrwyr o fewn y cwricwlwm, gan helpu i'w paratoi ar gyfer eu camau nesaf, gan gynnwys prifysgol, prentisiaethau, a cheisiadau am swyddi.
Yn ogystal, ac o ganlyniad i’r pandemig, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyflwyno rhaglenni cymorth arholiadau sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer y dysgwyr hynny nad ydynt efallai erioed wedi sefyll nac astudio ar gyfer asesiad ffurfiol.
Dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Ar ran y Coleg hoffwn i longyfarch Laurice am ei hymroddiad i ddilyn ei nodau addysg a gyrfa, er gwaethaf yr heriau a’r aflonyddwch digynsail a ddaeth yn sgil y pandemig.
“Dwi mor falch o weld bod y cyngor a’r arweiniad a ddarparwyd gan ein timau gweithgar wedi helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu symud ymlaen ar hyd eu llwybrau unigol i addysg, hyfforddiant a gyrfaoedd. Mae hyd yn oed yn fwy buddiol i unigolion fel Laurice, sydd bellach yn cymhwyso’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu gyda ni i wneud gwahaniaethau cadarnhaol go iawn i bobl eraill.”