Lluniadu Lefel 1 / Lefel 2
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau lluniadu gyda ffocws ar wella’r sgiliau sydd eisoes gennych neu ddysgu sut i luniadu fel dechreuwr.
Wrth luniadu drwy arsylwi cewch eich annog i ddatblygu dealltwriaeth o sut i ddefnyddio tôn, llinell a ffurf. Cewch gyfle hefyd i archwilio technegau gwneud marciau llawn mynegiant gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a chyfryngau. Mae lluniadu yn fan cychwyn sylfaenol lle gallwch ddatblygu sgiliau creadigol pellach, felly mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf a dylunio.
Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdio luniadu yn Llwyn y Bryn sy’n cynnwys îsls a deunyddiau lluniadu.
- Tymor 1 Lluniadu (10 wythnos)
- Tymor 2 Lluniadu (10 wythnos)
- Tymor 3 Lluniadu (10 wythnos).
Gwybodaeth allweddol
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai’n fuddiol i ddysgwyr fynychu bob tymor i gynyddu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nid yw hyn yn rhwystr i fynychu bob tymor fel cwrs annibynnol.
Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn. Yn ystod y cwrs bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau. Asesir hwn er mwyn cael tystysgrif ar gyfer y cymhwyster.
Darperir yr holl ddeunyddiau, ond mae pob cwrs 10 wythnos yn agored i’r ffioedd stiwdio canlynol:
- Tymor 1 - £10
- Tymor 2 - £10
- Tymor 3 - £10.