Mae pum myfyriwr Safon Uwch Saesneg o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig profiad oes – i fod yn interniaid yng Ngŵyl y Gelli sy’n cael ei chynnal yn fuan.
Mae Ra-ees Richards, Lowri Thomas, Jordana Yip, Seren Jefferies a Kesia Holmes i gyd wedi cael eu dewis i gymryd rhan ym Mhrosiect y Bannau yn ystod digwyddiad 2022.
Yn ystod eu hamser yn yr Ŵyl, byddan nhw’n cymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu creadigol gydag awduron a sgriptwyr, gwrando ar ddarlithoedd y Gelli a chael cyfle hyd yn oed i gyfweld â rhai o’r siaradwyr gwadd.
“Dwi mor falch o’r myfyrwyr hyn – am gyfle gwych i gymryd rhan mewn rhywbeth mor nodedig,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Emma Smith. “Dim ond 20 o bobl ifanc sy’n cael cynnig y cyfle hwn felly mae’n gyflawniad anhygoel ac yn brofiad y byddan nhw’n ei gofio am byth, dwi’n siŵr!”
Nod Prosiect y Bannau yw annog creadigrwydd a chreu ymdeimlad o hunaniaeth greadigol ymhlith pobl ifanc Cymru.
Mae’n cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr o Gymru weithio gydag awduron a newyddiadurwyr eithriadol mewn awyrgylch hynod greadigol ac ysgogol yn ystod Gŵyl y Gelli.