Mae myfyrwyr a staff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn cymryd rhan yn Wythnos Enfys, digwyddiad sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion LGBTQ+ ac yn dathlu cynwysoldeb ac amgylchedd diogel a chefnogol y Coleg.
Lansiwyd yr wythnos yn swyddogol gan y rheolwr a’r hyrwyddwr paffio hynod lwyddiannus Kellie Maloney a ddaeth i Gampws Tycoch i rannu ei stori bersonol hi o newid rhywedd – digwyddiad a gafodd ei ffrydio’n fyw ar draws y Coleg i’r rhai nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cnawd.
Yn ystod Wythnos Enfys hefyd bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio Rhwydwaith LGBTQ+ Staff sydd â’r nod o gofleidio’r gweithlu unigryw ac amrywiol, wrth ddarparu gofod diogel lle gall staff gysylltu ag eraill, teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a chodi unrhyw bryderon.
"Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n sefydliad cynhwysol ac mae gyda ni Wobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol i gydnabod ein polisi ar gyfer cynnal a hyrwyddo safon uchel o iechyd a lles yn y gweithle” dywedodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Coleg, Sarah King. "Rydyn ni wrth ein bodd bod cynifer o staff a myfyrwyr wedi ymateb mor gadarnhaol i’n cynlluniau ar gyfer Wythnos Enfys ac mae llawer wedi dweud y bydd y gweithgareddau a’r hyfforddiant sydd wedi’u cynllunio yn gwneud iddyn nhw deimlo hyd yn oed yn fwy cyfforddus wrth siarad am faterion LGBTQ+.”
Ar draws y campysau, mae baneri Pride yn cyhwfan ac ymhlith y gweithgareddau niferus sy’n cael eu cynnal mae cystadlaethau am addurno’r deisen enfys orau a’r tîm gwisg enfys gorau.
Mae uchafbwyntiau eraill Wythnos Enfys yn cynnwys gweithdy ar hyfforddiant cynghreiriaeth ac anerchiad a recordiwyd ymlaen llaw gan Chad Cloete am ei brofiad fel dyn hoyw yn y gymuned LGBTQ+ - mae’r ddau’n cael eu darparu mewn partneriaeth â Stonewall, llofnodi baneri Pride ar draws y Coleg, a dosbarthu bathodynnau rhagenwau wedi’u dylunio gan fyfyrwyr Celf a Dylunio a’u cymeradwyo gan Bwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Coleg.