Fel rhan o ddathliadau Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022, fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe gynnal digwyddiad Gwobrau Prentisiaeth rhithwir ar ei sianeli’r cyfryngau cymdeithasol, Twitter a LinkedIn.
Nod y digwyddiad rhithwir yw tynnu sylw at y prentisiaid, y cyflogwyr a’r aseswyr gorau.
“Unwaith eto, fe wnaeth ein gwobrau rhithwir daflu goleuni ar storïau llwyddiant a chyflawniad ar draws ein llwybrau prentisiaeth – o feysydd mor amrywiol â gosod brics, dadansoddeg data, a rheoli cyfleusterau – sy’n cael eu darparu ledled Cymru a Lloegr,” dywedodd Rachel Searle, Pennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith.
“Mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr a’n haseswyr wedi cael dwy flynedd heriol iawn ond dydyn nhw ddim wedi gadael i hyn rwystro eu teithiau dysgu a hyfforddi. Ac er nad oedden ni’n gallu bod gyda’n gilydd wyneb yn wyneb, roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig iawn anrhydeddu’r llwyddiannau hyn yn y ffordd orau y gallen ni.
“Mae dathlu’r storïau llwyddiant ysbrydoledig hyn yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn, mae’n dangos yr effaith bositif y mae prentisiaethau yn ei chael ar fywydau, gyrfaoedd a busnesau pobl.”
Yn ogystal â’r gwobrau rhithwir, fe wnaeth tîm Hyfforddiant GCS y Coleg gynnal amrywiaeth o weithdai ar-lein am ddim i weithwyr Cyngor Abertawe a’r bwrdd iechyd lleol. Roedd y sesiynau hyn wedi cwmpasu meysydd fel digidol, marchnata, cyngor a chyfarwyddyd a gwasanaeth cwsmeriaid.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Dyma rai o enillwyr 2022