Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio Ysgol Fusnes Plas Sgeti
Mae campws mwyaf newydd Coleg Gŵyr Abertawe – Ysgol Fusnes Plas Sgeti – wedi cael ei agor yn swyddogol gan y Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles.
Ar ôl prosiect ailwampio uchelgeisiol a dderbyniodd 65% cyllid gan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif, mae Plas Sgeti wedi cael ei drawsnewid yn ofod addysgu cyfoes gyda mannau cymdeithasol, llyfrgell a bar coffi.
Bydd y campws bellach yn gartref i amrywiaeth eang o gyrsiau busnes a rheoli proffesiynol, cymwysterau lefel uwch, prentisiaethau cysylltiedig â busnes a phrentisiaethau gradd.
Bydd hefyd yn rhoi modd i ni gyflwyno pynciau rheolaeth ac arweinyddiaeth ar draws darpariaeth eang y Coleg – fel cyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol – a bydd yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd gwadd wedi’u ffrydio’n fyw gan arweinwyr diwydiant allweddol.
Yn ogystal, bydd Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn rhoi mynediad i’r cyfleusterau addysgu a hyfforddi gorau i gleientiaid masnachol niferus y Coleg.
“Fel erioed, rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cymorth drwy gydol datblygiad y prosiect hwn – mae’r cyllid rydyn ni wedi’i gael ganddyn nhw wedi helpu i drawsnewid yr adeilad rhestredig Gradd II yn ofod dysgu ac addysgu modern lle gallwn ni helpu i lunio dyfodol addysg a hyfforddiant yn y rhanbarth,” dywedodd y Pennaeth, Mark Jones.
“Rydyn ni’n falch o agor Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn swyddogol ac mae’n bleser croesawu ein myfyrwyr a’n partneriaid diwydiant i’r cyfleuster newydd gwych hwn sydd wedi cael ei ddatblygu yn y pen draw iddyn nhw,” ychwanegodd y Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes, Paul Kift. “Bydd Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn rhoi modd i Goleg Gŵyr Abertawe greu rhaglenni newydd ac arloesol, gan helpu unigolion a busnesau i ffynnu wrth gefnogi gofynion Bargen Ddinesig Bae Abertawe.”
Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles:
“Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld ag Ysgol Fusnes Plas Sgeti sydd newydd gael ei hailwampio a gweld sut mae ein Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif yn cael ei defnyddio i greu gofodau dysgu a gweithio gwych a chefnogi sgiliau ein gweithlu’r dyfodol.
“Mae’n wych gweld prosiectau cyffrous fel hyn yn dwyn ffrwyth a dwi’n dymuno’r gorau i’r holl fyfyrwyr a staff yn eu cyfleuster newydd.”
A chafodd y myfyrwyr flas cyffrous ar yr hyn sydd i ddod yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti pan gafodd grŵp dethol o fyfyrwyr eu gwahodd i ddod i sesiwn holi ac ateb arbennig gyda chyn-Gapten Cymru a Llewod Prydain, Sam Warburton, yn syth ar ôl y lansiad.