Yn ddiweddar fe berfformiodd myfyrwyr Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth Coleg Gŵyr Abertawe ar eu llwyfan eu hunain yng Ngŵyl Ymylol Abertawe.
Roedd llwyfan Takeover Beacons x Coleg Gŵyr Abertawe, yn Hangar 18 ar ddydd Sadwrn 23 Hydref, yn cynnwys cerddoriaeth gan fandiau’r Coleg sef Avalanche, Konflix, Fish Tank, ac Ocean View, ynghyd â pherfformiad gan y cyn-fyfyriwr y flwyddyn, Olivia Kneath. Roedd y bandiau yn cynnwys amrywiaeth eang o genres, o indie i alt a hardcore.
"Roedden ni’n awyddus i fynd â’r hyn rydyn ni’n ei wneud y tu allan i’r Coleg i ganol llygad y cyhoedd,” dywedodd y darlithydd cerddoriaeth, AJ Laveaux. “Gyda chyfarwyddyd gennyn ni fel staff y Coleg ynghyd â phrofiad proffesiynol Richard o Beacons, wnaethon ni baratoi’r myfyrwyr i drefnu, hyrwyddo a rheoli’r sioe gyfan.
“Daeth llawer iawn o bobl i’r sioe ac roedd gwaith y myfyrwyr yn anhygoel drwy’r cyfan, cawson nhw amser gwych ac roedd yn braf gweld hynna ar ôl y ddwy flynedd maen nhw wedi cael,” dywedodd.
Yn nes ymlaen yn y flwyddyn, bydd y myfyrwyr yn perfformio sioeau adeg y Nadolig, Gŵyl San Ffolant a’r Pasg ar Gampws Llwyn y Bryn, yn ogystal â sioe ddiwedd blwyddyn a allai arwain at ddychwelyd i Hangar 18.
Nod y cwrs cerddoriaeth dwy flynedd a gynigir ar Gampws Llwyn y Bryn yw bod mor ymarferol ag sy’n bosibl ac mae’n troi cerddorion ystafell wely yn berfformwyr llwyfan sy’n gallu perfformio, ond hefyd sy’n gallu ysgrifennu, cyfansoddi, recordio, a hyrwyddo eu cerddoriaeth yn y byd go iawn.
Dysgwch fwy am y cwrs ac ymgeisiwch heddiw.