Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Sefydliad Peirianneg Galwedigaethol Changzhou (CZIE), Tsieina.
Mae CZIE yn goleg galwedigaethol o’r radd flaenaf yn Tsieina, a sefydlwyd yn gyntaf ym 1958. Gwnaethpwyd y cyflwyniad i’r sefydliad gan Lywodraeth Cymru, Shanghai, a helpodd i drefnu’r digwyddiad hefyd.
Cynhaliwyd y seremoni lofnodi rithwir ddydd Mawrth 19 Hydref, lle roedd tua 100 o fyfyrwyr a staff yn Tsieina yn bresennol, gan gynnwys Llywydd ac Is-lywydd CZIE, cydweithwyr o Lywodraeth Cymru yn Tsieina a Chaerdydd, a WorldSkills UK.
Roedd y seremoni yn cynnwys areithiau gan Bennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones, a Llywydd CZIE, Xiongwei Li, ac yna fideo llongyfarch gan y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles.
Fe wnaeth Steve Williams, Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig yn y Coleg, gyflwyno araith arbennig ar WorldSkills a’r system a ddefnyddir gan Goleg Gŵyr Abertawe i hyfforddi myfyrwyr. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys arddangosiadau ymarferol gan Rhys Watts, gan ddangos sut mae’r theori yn cael ei rhoi ar waith. Roedd y gweithdy yn boblogaidd iawn a chafwyd sawl cwestiwn ar y diwedd.
Nod y bartneriaeth yw cydweithio ar nifer o feysydd gan gynnwys cydweithredu mewn hyfforddiant sgiliau a datblygu’r cwricwlwm, ymweliadau cyfnewid myfyrwyr, a chystadlaethau sgiliau cyfeillgar. Bydd CZIE yn ganolfan hyfforddi ar gyfer myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe sy’n mynd i Gystadleuaeth WorldSkills Shanghai yn hydref 2022.
“Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ei bartner Coleg cyntaf yn Tsieina fel Sefydliad Peirianneg Galwedigaethol Changzhou. Mae rhyngwladoli yn flaenoriaeth i’r Coleg, a Tsieina fu ein prif ffocws ers cryn amser” dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe.
“Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cael cannoedd o fyfyrwyr o Tsieina, yn astudio cyrsiau Safon Uwch gyda ni, ac mae llawer ohonyn nhw wedi symud ymlaen i rai o brifysgolion gorau’r DU, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt. Ond, dyma gyfle gwych nawr i ni ganolbwyntio ar addysg alwedigaethol a thechnegol yn Tsieina, felly hwn fydd y tro cyntaf i ni! ” ychwanegodd.