Trwy gydol hanes, dynion sydd wedi dominyddu’r diwydiannau gwyddoniaeth a mathemateg i raddau helaeth.
Yn hanesyddol mae menywod ifanc wedi tueddu i gadw draw o bynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn ystod eu blynyddoedd ysgol. Gall hyn ddeillio o lawer o bethau, ond un ohonynt yw’r stereoteip hen ffasiwn bod gyrfaoedd STEM yn fwy addas ar gyfer dynion.
Ac o ganlyniad, yn aml gall menywod fod yn lleiafrif yn y diwydiannau hyn.
Fodd bynnag, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn chwalu’r cylch hwn ac mae wedi bod mor weithgr yn herio’r blwch dyheadau – gan annog merched a menywod ifanc i anelu’n uchel wrth ymdrechu tuag at yrfaoedd ym meysydd STEM.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a phartneriaethau blaenllaw yn y diwydiant sy’n gallu arwain at gyfleoedd gyrfa trwy ei raglen prentisiaethau llysgenadesau STEM.
Mae’r rhaglen hon yn rhoi modd i brentisiaid benywaidd fynd i ysgolion lleol lle gallant siarad â merched ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd cysylltiedig â STEM, ond sydd efallai’n digalonni ac yn teimlo’n brin o hyder.
Nod y rhaglen hon yw i brentisiaid Coleg Gŵyr Abertawe ysbrydoli dysgwragedd ifanc i gychwyn ar lwybrau STEM trwy rannu eu profiadau o fod yn fenyw yn y diwydiant.
Er mwyn hyrwyddo ei gymorth i ferched a menywod sy’n ymdrechu i weithio ym meysydd STEM neu eisoes yn gweithio ynddynt, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn noddwr yng Ngwobrau Menywod mewn Busnes eleni - seremoni wobrwyo flynyddol sy’n dathlu menywod talentog a llwyddiannus sydd wrth wraidd cymuned fusnes Cymru - a bydd yn cyhoeddi enillydd y wobr ‘Menyw Fwyaf Dylanwadol y Flwyddyn’.
Dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, “Fel Coleg rydyn ni’n hynod gefnogol i fenywod ym meysydd STEM ac yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a phrentisiaethau sy’n darparu’n uniongyrchol i’r rhai sy’n awyddus i ymuno â’r diwydiant. Mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen bod dysgwragedd yn cerdded trwy ein drysau ar eu diwrnod olaf yn y Coleg yn hyderus yn eu dyfodol.
“Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o’i ddysgwragedd cryf a fydd yn arwain y ffordd mewn amrywiaeth o ddiwydiannau yn y dyfodol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at chwarae ein rhan fel noddwyr categori yn y gwobrau eleni a chydnabod y menywod blaenllaw ym myd busnes Cymru. Ein nod yw gweld ein dysgwragedd presennol ar y llwyfan hwnnw yn y dyfodol agos.”
Bydd seremoni Gwobrau Menywod mewn Busnes yn cael ei chynnal yn Neuadd Brangwyn Abertawe ar ddydd Iau 30 Medi.
Ochr yn ochr â’i bresenoldeb yn y gymuned fusnes, mae gan Goleg Gŵyr Abertawe hanes llwyddiannus o ennill gwobrau am ei ddarpariaeth brentisiaeth, gan weithio mewn partneriaeth â busnesau blaenllaw ledled Cymru a Lloegr. Y prentisiaethau haen uchaf hyn a helpodd y Coleg i sicrhau teitlau Rhaglen Brentisiaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Tes FE, a Darparwr Prentisiaeth Ddigidol y Flwyddyn a Darparwr Prentisiaeth Peirianneg a Gweithgynhyrchu y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cenedlaethol AAC FE Week ac AELP.
Llun: Llwyddiant diweddar yn STEM: Dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe yn cyrraedd rownd derfynol genedlaethol WorldSkills 2021 yn y gystadleuaeth Gwyddor Fforensig.