Mae’r myfyriwr Celf a Dylunio, Flora Luckman, wedi cael ei chomisiynu gan Goleg Gŵyr Abertawe i greu darn o waith pwrpasol sy’n dal ethos ac awyrgylch Campws Llwyn y Bryn.
Yn ddiweddar, mae Flora wedi cwblhau’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn Llwyn y Bryn ac mae bellach yn symud ymlaen i Brifysgol Caeredin i astudio Darlunio.
“Ar gyfer fy mhrosiect terfynol, dewisais i wneud llyfr i blant am yr amgylchedd a theithio o gwmpas y byd,” dywedodd Flora. “Roedd ein Rheolwr Maes Dysgu, Kieran Keogh, yn hoffi un o’r tudalennau yn fawr iawn, oedd yn cynnwys map o’r byd, ac fe wnaeth e fy nghomisiynu i wneud darn mwy o faint, yn seiliedig ar amlddiwylliannedd y campws.”
“Ochr yn ochr â’n myfyrwyr celf a dylunio, ffotograffiaeth a cherddoriaeth, mae Llwyn y Bryn hefyd yn gartref i ddysgwyr ESOL, y daeth llawer ohonynt i’r DU fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac sydd am ddatblygu eu sgiliau Saesneg,” dywedodd Kieran. “Felly, roedd yn bwysig iawn bod gwaith celf Flora yn adlewyrchu ac yn dathlu ein holl fyfyrwyr, ddoe a heddiw. Mae Llwyn y Bryn yn gampws bach, clòs iawn, ac roeddwn i eisiau i Flora grisialu’r teimlad ‘na yn ei gwaith, a dwi’n credu ei bod hi wedi gwneud hynny yn wych.”
Cafodd lluniad sylfaen Flora ei greu ar wyth dalen ar wahân o bapur A1 ac yna fe wnaeth hi ddod â nhw yn fyw gyda gwahanol olchiadau o liw, wedi’u hysbrydoli gan liwiau bïomau’r byd. Cafodd pob ffigur ei luniadu ar wahân, ac yna ei beintio â dyfrlliwiau ac wedi’i linellu gan ddefnyddio inciau. Yn olaf, sganiodd pob un i mewn a rhoi popeth at ei gilydd i greu un darn cydlynol o waith a fydd nawr yn cael ei arddangos ar y campws.
“Roedd hi mor gyffrous cael fy ngwahodd i wneud hyn i’r Coleg ac mae wedi rhoi hyder i mi ar gyfer y brifysgol,” dywedodd Flora. “Roedd hi’n gymaint o anrhydedd a gobeithio fy mod i wedi gwneud cyfiawnder â phawb yn Llwyn y Bryn!”
Yn ddiweddar, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod yn swyddogol fel Coleg Noddfa, y Coleg AB cyntaf yng Nghymru i gael dyfarniad o’r fath.