UAL Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio – Theatr Gerdd
Trosolwg
Corff dyfarnu: Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL)
Bwriedir y cwrs Diploma Proffesiynol mewn Perfformio (Theatr Gerdd) i fyfyrwyr 18+ oed sydd am astudio’r tri phrif sgil sydd eu hangen i lwyddo mewn Theatr Gerdd ac uwchraddio eu set sgiliau presennol mewn actio, canu a dawnsio.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a chael gwybodaeth amhrisiadwy am fyd Theatr Gerdd. Cewch gyfle i ddatblygu’ch sgiliau trwy weithdai ymarferol, dosbarthiadau meistr, a phrosiectau perfformio, gan roi modd i chi ddatblygu sylfaen gref ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.
Ers dechrau’r cwrs yn 2019 rydym wedi cael cyfradd llwyddo 100% ar gyfer adalwadau yn y colegau gorau!
Bydd myfyrwyr yn:
- Gwella sgiliau mewn canu, actio a dawnsio
- Cael cymorth unigol a sylweddol i baratoi ar gyfer clyweliadau; gan gynnwys areithiau clasurol a chyfoes, caneuon ‘legit’ a chyfoes a thechnegau ar gyfer clyweliadau dawns
- Bod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau perfformio mewn lleoliadau proffesiynol
- Gweithio gyda chyfarwyddwyr theatr, cyfarwyddwyr cerdd a choreograffwyr proffesiynol
- Gweithio’n rheolaidd gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant
- Mynychu amrywiaeth o berfformiadau theatr
- Cael gwersi wythnosol mewn tapddawnsio, bale a jazz
- Cael gwersi canu grŵp a gwersi preifat bob wythnos
- Cael sesiynau ‘Actio trwy Gân’ sydd hefyd yn cynnwys techneg actio
- Gweithio gyda’r Cwmni Actio mewn Drama a Llais yn ogystal ag Actio mewn sesiynau Cerddorol.
Gwybodaeth allweddol
Mynediad trwy gyfweliad a chlyweliad.
Bwriedir y cwrs hwn i fyfyrwyr 18+ sydd wedi cwblhau rhaglen tri cwrs Safon Uwch, sy’n cynnwys drama / dawns / cerddoriaeth neu gwrs Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio. Fodd bynnag, mae ymgeiswyr hefyd yn cael eu hystyried yn seiliedig ar eu set sgiliau a’u profiad mewn clyweliad.
Mae’r cwrs yn bennaf yn ymarferol gyda llyfrau log ynghlwm.
Byddwch yn gweithio ar sioe sy’n cyflwyno deunydd eich clyweliad i gynulleidfa wedi’i gwahodd (uned un) ac yna byddwch yn mynd yn ddyfnach ar ymarferydd neu ddull theatr gerdd penodol ar gyfer uned dau. Mae uned 3 yn berfformiad cyhoeddus.
Mae cyfran fawr o’r gwaith a wneir yn ymarferol ei natur ac yn cael ei asesu’n barhaus. Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn.
Mae’r cwrs yn amser llawn a rhaid bod myfyrwyr ar gael ar gyfer hyd at 18 awr o amser cyswllt yr wythnos. Mae’n debygol iawn y byddwch yn gallu cael diwrnod rheolaidd bant bob wythnos i weithio y mae llawer o fyfyrwyr yn ei ddefnyddio i ariannu eu clyweliadau. Fodd bynnag, rhaid i chi fod ar gael yn amser llawn pan fyddwn yn ymarfer ar gyfer ein cynhyrchiad terfynol.
Dylai myfyrwyr sy’n cael eu derbyn ar y cwrs hwn fod yn anelu at ymgeisio i golegau arbenigol neu’r brifysgol, neu’n ystyried gwella eu set sgiliau presennol fel y gallant fynd yn syth i’r diwydiant proffesiynol. Mae’r cwrs yn debyg iawn i’r cyrsiau Sylfaen y mae’r ysgolion cerdd yn eu cynnig ond heb y gost sylweddol.
Mae cyn-fyfyrwyr y cwrs Theatr Gerdd Lefel 4 hwn wedi symud ymlaen i nifer o golegau o fri cenedlaethol gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Academi Celfyddydau Theatr Mountview, GSA Conservatoire, Ysgol Theatr Arden, Academi Emil Dale, Trinity Laban, Academi Celfyddydau Theatr Italia Conti, Bird College, a Leeds Conservatoire, a phrifysgolion nodedig amrywiol sy’n arbenigo mewn Perfformio Theatr Gerdd.
Mae perfformiadau Lefel 4 yn y gorffennol wedi cynnwys “The Little Shop of Horrors”, a rifíw cabare o’r enw “The West End After Dark”, “I Love You You’re Perfect Now Change” a sioe gerdd wreiddiol o’r enw “Reign”. Mae’r rhan fwyaf o’n sioeau yn cael eu perfformio yn Theatr y Grand Abertawe.
Costau’r cwrs
Ffi’r cwrs yw £500 sy’n cynnwys gweithdai, ymweliadau theatr a dosbarthiadau meistr gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Hyd y cwrs
Addysgir y cwrs hwn dros un flwyddyn academaidd ar Gampws Gorseinon ond byddwch yn mynychu rhai dosbarthiadau yn Theatr y Grand Abertawe.