Mae pedwar myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio gwobrau yng nghategori dan 18 Cystadleuaeth Portread Cymunedol Creadigol 9to90.
Mae’r gystadleuaeth flynyddol, a drefnwyd gan Jane Simpson o GSArtists, yn rhoi cyfle i’r gymuned ddod ynghyd o bob oedran a gallu ac i arddangos eu gwaith yn yr oriel. Ond eleni, cafwyd arddangosfa rithwir a’r thema oedd actor Rob Brydon, gyda Brydon a’i deulu yn beirniadu’r darnau.
“Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn hwn,” trydarodd Brydon, “-cymaint o dalent mewn amgylchiadau mor anodd. Dwi’n sôn am y pandemig ac nid y pwnc” meddai mewn hwyl.
Y myfyrwyr buddugol oedd:
Enillydd: Seren-Haf Davies
Yn ail: Llinos Dando
Canmoliaeth Uchel x 2: Kaitlin Law a Maegen Kenvin
Mae pob un o’r myfyrwyr yn astudio Celf a Dylunio Lefel 1 ar hyn o bryd.
Roedd Seren-Haf a Llinos wedi dewis darluniadau traddodiadol gyda gludwaith tebyg i fosaig, ac roedd portreadau Kaitlin a Maegen yn rhai digidol.
“Mae 9to90 yn ddigwyddiad ardderchog nid-er-elw sy’n dathlu’r celfyddydau ac yn hyrwyddo talentau lleol,” dywedodd Marilyn Jones, Darlithydd Celf a Dylunio a thiwtor yr enillwyr. “Mae’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn ennill shwt gymaint o’r broses o ateb briff go iawn, archwilio technegau, cymhwyso sgiliau, arddangos eu gwaith a derbyn sylwadau a barn.
“Mae hyn wedi meithrin eu hyder a hunan-barch, ac maen nhw wedi ennill gwobrau celf anhygoel o ganlyniad. I rai dyma’r gystadleuaeth gyntaf maen nhw erioed wedi’i hennill, mae wedi codi eu hysbryd yn ystod y pandemig ‘ma ac yn profi bod creadigrwydd yn gallu gwneud byd o les i ni i gyd.”