Ar ddydd Llun 25 Ionawr, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu Dydd Santes Dwynwen ychydig yn wahanol.
Penderfynon ni roi gwobrau am straeon cadarnhaol drwy ofyn i staff a dysgwyr enwebu unigolyn sydd wedi bod yn gyfeillgar, yn gariadus ac wedi dangos ysbryd cymunedol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Gofynnwyd i enwebwyr roi rheswm pam roedden nhw’n meddwl bod pobl yn haeddu’r gydnabyddiaeth hon. Roedd rhesymau wedi amrywio o fod yn garedig tuag at aelod newydd o staff i wnïo cyfarpar diogelu personol ar gyfer ysbytai lleol. Mae’r ystod o enwebiadau yn profi pa mor amrywiol yw cymuned y Coleg, fe ddylem ddathlu’r newyddion da sy’n gallu dod yn ystod cyfnodau anodd.
"Hoffwn i ddiolch i’r holl aelodau o staff a’r dysgwyr sydd wedi cymryd yr amser i enwebu’r holl unigolion. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi ennill gwobr a chofiwch ein bod ni fel Coleg yn ddiolchgar iawn i bob un ohonoch chi am helpu pobl eraill drwy ddangos gweithredoedd o garedigrwydd a lledaenu positifrwydd ar draws ein Coleg a’r gymuned leol. Diolch a Dydd Santes Dwynwen hapus i chi i gyd!" meddai Anna Davies, ein hyrwyddwr dwyieithog yn y Coleg.
Bydd y Coleg yn anfon rhodd yn y post at yr holl enwebeion i ddiolch iddynt. Dyma’r enillwyr:
Kirsty Drane - Cyflogadwyedd
Ahmad Hammoudeh - myfyrwir ESOL
Lara Davies - myfyriwr Gwasanaethau Cyhoeddus
Kathleen James - myfyriwr ASO
Shelley Morgan - myfyriwr ASO
Holly Davies - myfyriwr ASO
Jackie Raddenbury - myfyriwr Gwasanaeth Cwsmer
Julie Thomas, Human - Adnoddau Dynol
Sarah Leakey - ADY
Lisa Scally - ADY
Andrew Manley - Adeiladwaith
Chloe Elizabeth Anne Williams - myfyriwr Iechyd a Gofal
Karen Llewellyn - Iechyd a Gofal
Rhian Pardoe - Rheolwr Maes Dysgu Iechyd a Gofal
Bridget Flavin - myfyriwr Iechyd a Gofal
Kelly Nedin - Iechyd a Gofal
Michelle William - ADY
Steve Lewis - ADY