Mae pedwar myfyriwr y Celfyddydau Cynhyrchu Theatr sydd wedi graddio’n ddiweddar o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd Bryste i gymryd eu lleoedd yn Ysgol Theatr nodedig yr Old Vic.
Bydd Abbi Davies, Susannah Pearce, Matthew Newcombe a Lewis Bamford yn dechrau eu cyrsiau’r Celfyddydau Cynhyrchu (Llwyfan a Sgrin) a Gwisgoedd ar gyfer Theatr, Teledu a Ffilm y mis hwn.
Hefyd yn ymuno â nhw bydd Chris Monks, a astudiodd y Celfyddydau Cynhyrchu Theatr ar Gampws Gorseinon wyth mlynedd yn ôl. Ar ôl gadael y Coleg, bu Chris yn gweithio ym maes arlwyo ac roedd yn gogydd llwyddiannus yn y DU ac yn Seland Newydd cyn penderfynu dychwelyd at ei gariad cyntaf - y theatr.
“Rydyn ni wrth ein boddau gyda llwyddiant ein Dosbarth 2020 a oedd yn gorfod ymdopi â rhai amgylchiadau heriol iawn,” dywedodd Adrian Hocking, Arweinydd Cwricwlwm y Celfyddydau Cynhyrchu Theatr a Pherfformio. “Mae dros dri chwarter y grŵp hwn o fyfyrwyr bellach wedi penderfynu parhau â’u hastudiaethau mewn prifysgol neu goleg drama.
“Dwi hefyd mor falch o weld Chris yn dychwelyd i’r theatr ac yn ennill lle yn yr Old Vic ym Mryste. Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw.”