Rydym bellach wedi derbyn y rhan olaf o ganllawiau Llywodraeth Cymru a fydd yn caniatau i’r Coleg ailagor ddechrau mis Medi.
Er bod y canllawiau hyn wedi cael eu hoedi, rydym wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru trwy gydol yr haf ac rwyf yn awr yn falch o allu rhannu ein cynlluniau ar gyfer mis Medi.
Fodd bynnag, hoffwn atgoffa pawb o ddwy flaenoriaeth allweddol y coleg, gan fod ein cynlluniau’n seiliedig ar yr hyn rydym yn credu yw’r ffordd orau o gyflawni’r blaenoriaethau hyn.
Blaenoriaeth un
Ein blaenoriaeth gyntaf yw iechyd a diogelwch ein myfyrwyr, ein staff a’n ymwelwyr. Byddwn yn sicrhau ein bod yn rheoli cyswllt rhwng unigolion - yn unol â’r canllawiau diweddaraf - er mwyn lleihau unrhyw risgiau o ran lledu’r feirws ac, i gadw’r cynifer o fyfyrwyr yn y Coleg ag sy’n bosib ar bob adeg.
Blaenoriaeth dau
Ein hail flaenoriaeth yw darparu addysgu a dysgu o’r ansawdd uchaf i’n myfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni’r graddau gorau posib ac yn sicrhau’r cyfleoedd gorau i symud ymlaen i brifysgolion, swyddi, prentisiaethau neu gyrsiau lefel uwch arall yn y Coleg.
Er mwyn cwrdd â’r blaenoriaethau hyn, byddwn yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn agos. Nodir y canllawiau:
- Bydd myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau amser llawn yn cael eu rheoli fesul eu grwpiau cyswllt cyrsiau unigol (swigod). Fodd bynnag, ni fydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr ESOL, lle byddwn yn dilyn canllawiau pellhau cymdeithasol. Byddwn yn dilyn dull gwahanol ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch, a byddaf yn ymelaethu ar hyn yn ddiweddarach yn y diweddariad.
- Bydd myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau rhan-amser, gan gynnwys dysgu cymunedol, prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd hefyd yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Golyga hyn, felly, y bydd angen dau gynllun gwahanol arnom ar gyfer cyrsiau amser llawn.
Mae Cynllun A, sef ein cynllun ffafriedig y byddwn yn ei weithredu ar ddechrau’r tymor, yn seiliedig ar addysgu wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth (amcangyfrwn y bydd hyn yn digwydd yn y Coleg am 4 diwrnod o’r wythnos), ynghyd ag ychydig o addysgu ar-lein mewn meysydd megis Bagloriaeth Cymru ac ar gyfer ail-sefyll TGAU.
Mae Cynllun B, yn dilyn trywydd mwy cyfunol, gyda llai o wasanaethau wyneb yn wyneb a mwy o addysgu ar-lein, a dyma’r cynllun y byddwn yn rhoi ar waith o fis Mawrth tan Fehefin. Mae’r cynllun eisoes wedi derbyn canmoliaeth gan rieni a myfyrwyr.
Pam dau gynllun?
Oherwydd ein bod yn meddwl ac yn cynllunio ymlaen llaw pe bai naill ai dosbarth unigol (grŵp cyswllt) neu’r Coleg cyfan yn gorfod dychwelyd i gyfnod o gyfyngiadau symud yn y dyfodol.
Mae’r ffaith bod gennym ddau gynllun yn golygu y byddwn yn gallu newid dulliau cyflwyno yn ddiymdrech a pharhau i newid yn ôl ac ymlaen rhwng y cynlluniau yn ôl yr angen.
Safon Uwch
Amlinellaf yn awr sut yr ydym yn bwriadu cyflwyno cyrsiau Safon Uwch - cynllun sydd wedi’i rhannu a’i gymeradwyo gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae llawer o ysgolion yn trin Safon Uwch fel un grŵp cyswllt, ond mae hyn yn achosi risg wirioneddol o orfod gofyn i bob myfyriwr i huan-ynysu, os yw, er enghraifft, un myfyriwr yn dal y feirws.
Yn y Coleg, rydym o’r farn mai’r ffordd orau o osgoi hyn yw rhannu’r rhaglenni Safon Uwch mewn i grwpiau cyswllt ar gyfer pob pwnc. Mae hyn yn ffordd o leihau’r risg diangen o fyfyrwyr yn dod mewn i gysylltiad â myfyrwyr sy’n astudio pynciau eraill.
Felly, byddwn yn amserlenni pynciau penodol ar gyfer diwrnodau penodol, er enghraifft, efallai y bydd Cemeg Safon Uwch ar ddydd Llun, Ffiseg Safon uwch ar ddydd Mawrth, ac yn y blaen.
Yn amlwg, nid yw hyn yn gwaredu’r risg yn llwyr, ond mi fydd yn golygu y bydd myfyrwyr yn dod i gysylltiad â myfyrwyr eraill sydd yn astudio’r un cwrs â nhw yn unig - a gallwn leihau’r risg ymhellach drwy ddyrannu desgiau penodol i’r myfyrwyr.
Er bod hwn yn ddull newydd i ni, nid yw’n anghyffredin mewn sefydliadau eraill, ac mae llawer o ddarlithwyr o’r farn bod y sefyllfa bresennol yn fanteisiol iawn o ran caffael mwy o gyfleoedd i atgyfnerthu addysgu ymhellach.
Hefyd, nid yw hyn yn golygu bod yr holl waith ar gyfer u pwnc penodol y cael ei gywasgu mewn i un diwrnod. Er enghraifft, bydd gwaith cwrs a gwaith cartref yn cael ei osod trwy gydol yr wythnos, bydd sesiynau tiwtorial yn cael eu trefnu a bydd rhywfaint o’r ddarpariaeth yn cael ei ddarparu ar-lein.
Bydd manylion pellach yn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach yn yr wythnos, ac yn ystod yr wythnos sy’n dechrau dydd Mawrth 1 Medi, bydd pob cwrs amser llawn yn dechrau gyda rhaglen sefydlu.
Er hyn, ar gyfer yr wythnos gyntaf, bydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i mewn i’r Coleg am un diwrnod er mwyn iddynt allu dod yn gyfarwydd â’r drefn newydd, ac er mwyn inni allu esbonio iddynt beth sydd yn eu disgwyl o ran y mesurau rydym wedi eu rhoi ar waith i gadw pawb yn ddiogel.
Rhaid inni hefyd wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn defnyddio’r offer digidol priodol a’u bod yn gallu cael gafael ar adnoddau ar-lein.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf yn llunio a gweithredu’r cynlluniau a’r dulliau hyn, ac rwyf yn gobeithio’n fawr eich bod yn deall y rhesymeg y tu ôl iddynt.
Mark Jones
Pennaeth