Skip to main content

e-Chwaraeon Lefel 3 - Digwyddiadau a'r Cyfryngau

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Ar y cwrs e-chwaraeon hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion e-chwaraeon trwy amrywiaeth o brosiectau gwahanol. Bydd myfyrwyr yn gyfrifol am greu portffolio o waith i arddangos eu sgiliau ar draws unedau gwahanol.

Bydd unedau ar y cwrs e-chwaraeon yn cynnwys Dylunio Gemau, Digwyddiadau e-Chwaraeon, Darlledu Ffrydiau Byw, Cyfryngau Cymdeithasol, Brandio, Hyfforddiant e-Chwaraeon, Marchnata Digidol a mwy. Bydd yr unedau hyn yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a hyrwyddo eu hunain yn y diwydiant e-chwaraeon. Byddan nhw’n gallu defnyddio’r gwaith a grëwyd ganddynt i hyrwyddo eu sgiliau i gyflogwyr posibl.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs e-chwaraeon yn gadael â chymhwyster sy’n gallu arwain at gyrsiau prifysgol mewn e-Chwaraeon, Marchnata, Marchnata Digidol, Brandio, Rheoli Digwyddiadau a mwy.

Amcanion y cwrs

  • Ennill dealltwriaeth eang o e-chwaraeon a gallu astudio meysydd dethol yn fwy manwl
  • Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o e-chwaraeon 
  • Dysgu sut i osod, dylunio a brandio timau, logos, nwyddau ac ati 
  • Datblygu a chreu platfformau’r cyfryngau cymdeithasol, fel eich sianeli YouTube a Twitch eich hun
  • Cael cyfle i gymhwyso dysgu mewn ffordd ymarferol a realistig
  • Dilyn rhaglen astudio sy’n galluogi dilyniant i addysg uwch a chyflogaeth mewn TGCh, busnes a marchnata
  • Magu hyder trwy ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol
  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau e-chwaraeon fel e-Chwaraeon Prydain, Insomnia ac ati.
     

Deilliannau'r cwrs

  • Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth o amrywiaeth o agweddau yn y diwydiant e-chwaraeon
  • Gallai’r cwrs hwn arwain at yrfaoedd mewn marchnata, ffrydio, busnes, marchnata digidol, rheoli digwyddiadau, cymorth technegol, chwaraewr proffesiynol, sylwebydd e-chwaraeon a llawer mwy.

Gwybodaeth allweddol

Unedau

Blwyddyn un

Cyflwyniad i e-Chwaraeon

Sgiliau, Strategaethau a Dadansoddi

Menter ac Entrepreneuriaeth yn y Diwydiant e-Chwaraeon

Iechyd, Lles a Ffitrwydd ar gyfer e-Chwaraeon.

Blwyddyn dau

Digwyddiadau e-Chwaraeon

Darlledu Ffrydiau Byw

Cynhyrchu Fideo.

Asesu

Gwaith cwrs.  

Meini Prawf Graddio

Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth. 

Gallai’r cwrs hwn arwain at yrfaoedd mewn marchnata, ffrydio, busnes, marchnata digidol, rheoli digwyddiadau, cymorth technegol, chwaraewr proffesiynol, sylwebydd e-chwaraeon a llawer mwy.