HND Peirianneg Fecanyddol (Ychwanegol)
Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
Hyd: Dwy flynedd
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un a hoffai gael gyrfa mewn peirianneg fecanyddol gyda chyfrifoldeb am ddylunio, gosod, comisiynu a gweithredu gwasanaethau peirianneg.
Diweddarwyd Medi 2022
Gwybodaeth allweddol
Fel rheol dylai myfyrwyr feddu ar HNC gyda 120 credyd ar Lefel 4. Rhaid i hyn fod o raglen gymeradwy. Cysylltwch â ni am gadarnhad ac i gael cyfweliad.
Addysgir y cwrs hwn dros ddwy flynedd academaidd.
Blwyddyn 1
Y modiwlau yw:
Lefel 5
- Egwyddorion peirianneg fecanyddol
- Gweithgynhyrchu, dylunio a thechnoleg
- Mecaneg thermohylif
Blwyddyn 2
Y modiwlau yw:
Lefel 5
- prosiect grŵp
- rheolaeth, arloesedd a chynaliadwyedd
- canfod namau a monitro cyflwr
Mae’r cymhwyster yn agor cyfleoedd gyrfa mewn ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Gall myfyrwyr hefyd symud ymlaen i’r BEng neu’r MEng ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Achrediad Dysgu Blaenorol Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS O fis Medi 2023, y ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs yw £2100 y flwyddyn. I gael gwybodaeth am gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn: • teithio i ac o’r coleg, neu’r lleoliad • llungopïo, deunydd ysgrifennu a chostau offer (e.e. cofau bach) • argraffu a rhwymo • gynau ar gyfer seremonïau graddio *Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.