Ffotograffiaeth Lefel 2 - Diploma Technegol
Trosolwg
Cwrs deinamig sy’n eich trochi ym myd hynod ddiddorol ffotograffiaeth. Bwriad y rhaglen hon yw meithrin eich llygad creadigol a’ch hyfedredd technegol, a bydd yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori.
O dechnegau trefnu a goleuo i olygu delweddau ac ôl-gynhyrchu, byddwch yn archwilio agweddau amrywiol ar ffotograffiaeth. Trwy aseiniadau ymarferol byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn ffilm draddodiadol a ffotograffiaeth ddigidol, meistroli gweithrediadau camera a deall egwyddorion datguddio.
Mae’r cwricwlwm yn cwmpasu ystod eang o genres sy’n rhoi modd i chi ddarganfod a mireinio eich arddull unigryw eich hun. Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar hanes ffotograffiaeth, tueddiadau cyfoes, a ffotograffwyr dylanwadol, gan ehangu eich gweledigaeth artistig.
Dan arweiniad hyfforddwyr profiadol, byddwch yn derbyn adborth ac arweiniad gwerthfawr i’ch helpu i dyfu fel ffotograffydd. P'un a ydych am ddilyn gyrfa mewn ffotograffiaeth neu’n dymuno gwella’ch sgiliau creadigol, mae’r diploma hwn yn darparu llwyfan cynhwysfawr i fynegi eich galluoedd adrodd storïau gweledol.
Gwybodaeth allweddol
- Pedair gradd D neu uwch ar lefel TGAU
- Yn amodol ar gyfweliad ac enghreifftiau o waith.
Bydd angen pasio chwe uned (dim arholiadau). Y graddau yw Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn symud ymlaen i Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Ffotograffiaeth.