Mae Rheolwr Addysg Fenter Coleg Gŵyr Abertawe, Sue Poole, wedi cael ei chynnwys ar restr fer i ennill gwobr fawreddog sy'n cydnabod ei harbenigedd a'i hymagwedd frwdfrydig at yr agenda menter cenedlaethol.
Wedi'i threfnu gan y tîm sydd y tu ôl i Wobrau Entrepreneuriaeth Prydain Fawr a chyhoeddwyr Fresh Business Thinking, Gwobrau Entrepreneuriaeth Cymru yw'r unig seremoni wobrwyo sy'n cydnabod gwaith caled a straeon ysbrydoledig entrepreneuriaid a busnesau Cymru.
Fel un sy'n teimlo'n angerddol ynghylch hybu ysbryd entrepreneuraidd pobl ifanc - o'r ysgol gynradd i'r brifysgol - mae Sue wedi chwarae rôl allweddol yn y prosiect llwyddiannus 'O'r Ysgol Gynradd i'r Byd Proffesiynol' a enillodd Wobr Entrepreneuriaeth Prydain 2014, ac aeth ymlaen i gael 'Sylw Arbennig' yng Nghynulliad SME yn Naples.
Cyn hynny, chwaraeodd rôl allweddol wrth lansio Academi Entrepreneuriaeth y coleg (y cyntaf o'i fath yng Nghymru), fe helpodd i sefydlu Siambr Fasnach Pobl Ifanc, a bu'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r fenter Dreigiau Busnes Ifanc.
Mae Sue eisoes wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol am ei gwaith, a'i henwi'n "Fentor Busnes y Flwyddyn" yng Ngwobrau Merched mewn Busnes 2012, digwyddiad a gynhaliwyd ar y cyd â PwC.
“Sue yw'r sbardun i hyrwyddo sgiliau entrepreneuraidd ar draws y sector cynradd, uwchradd ac addysg bellach yn Abertawe," meddai'r Cynghorydd Mike Day, a enwebodd Sue am y wobr. “Teimlai Sue y dylid ymgysylltu â'r dysgwyr yn gynharach er mwyn eu cyflwyno i sgiliau entrepreneuraidd hanfodol, gan gynnwys creadigrwydd, arloesi a chymryd risg.”
“Ond nid yw Sue yn rhywun i orffwys ar ei bri, ac ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar sefydlu menter gymdeithasol newydd o'r enw y Ganolfan Addysg Entrepreneuriaeth sy'n ceisio sicrhau bod yr holl waith da hwn yn gynaliadwy yn y tymor hir, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r prosiectau wedi'u cyllido gan nawdd masnachol yn hytrach na grantiau'r llywodraeth."
“Rwy' wrth fy modd i gael fy enwebu ar gyfer y wobr hon,” ychwanga Sue. “Mae'n wych cael fy enw ar y rhestr fer yn y categori Hyrwyddwr Entrepreneuriaid, oherwydd rwy'n gwybod y byddai wedi bod tipyn o gystadleuaeth."
Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 12 Tachwedd yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd.
Llun: Digwyddiad O'r Ysgol Gynradd i'r Byd Proffesiynol a gynhaliwyd ym Mhlas Sgeti yn 2014 - mae Sue Poole yn y llun (ar y chwith) gydag Edwina Hart AC, y Cynghorydd Mike Day a disgyblion ysgol lleol.