Mae myfyrwyr sy'n dilyn rhaglen Technoleg Ddigidol Coleg Gŵyr ar fin elwa ar nawdd a chyfleoedd cyflogaeth posibl ar ôl i'r adran greu cysylltiadau â chwmni byd-eang arloesol.
Wedi'i leoli yn Abertawe, sefydlwyd Energist Cyf yn 1999 ac ymhen dim o amser daeth yn arweinydd y farchnad ym maes systemau Golau Pylsiedig (IPL) yn seiliedig ar ei dechnoleg golau pylsiedig newidiol VPL unigryw. Ers hynny mae'r cwmni wedi ehangu'n gyflym, gan adeiladu canolfan ddosbarthu fyd-eang a gwerthiannau sylweddol yn Ne-ddwyrain Asia, Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd America.
Daeth y bartneriaeth rhwng y coleg ag Energist i fod pan aeth Steve Williams, Arweinydd Tîm Cwricwlwm ar gyfer Technoleg Ddigidol, i ymweld â safle Abertawe fel rhan o'i ymweliadau rheolaidd â diwydiant yn 2014.
“Rydym ni i gyd yn gyffrous iawn i gael cyfle i gydweithredu â'r cwmni hwn sy'n arwain y sector ac rydym yn edrych ymlaen at gael partneriaeth weithio hir a hapus â nhw,” meddai Steve. "Mae Energist eisoes wedi cyfrannu offer gweithgynhyrchu arbenigol i'r coleg, a fydd yn gwella profiad ein myfyrwyr drwy roi cyfle iddyn nhw ddefnyddio'r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf un sy'n benodol ar gyfer y sector electroneg feddygol."
Yn ogystal â'r cymorth ymarferol hwn, mae Energist hefyd wedi cynnig profiad gwaith estynedig i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, gyda'r posibilrwydd y bydd hyn yn arwain at gyfleoedd prentisiaeth.
“Mae Energist yn blês iawn i gefnogi'r coleg, yn enwedig gan ei fod yn ganolfan mor bwysig o ragoriaeth dechnegol," ychwanega Darren Thomas, Prif Swyddog Technegol. "Mae twf economaidd lleol wedi'i seilio ar arbenigedd gwasanaeth technegol ac arloesedd a dylai diwydiant gefnogi colegau lleol i baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd y tu allan i'r system addysg."