Skip to main content

Gofaint Arian – Gweithdy Arbenigol

Rhan-amser
Lefel 3
Llwyn y Bryn
10 weeks
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bwriad y tair sesiwn o 10 wythnos o weithdai yw annog datblygiad technegau gofaint arian uwch a rhoi cyfle i chi arbenigo yn y maes o’ch dewis. Mae’r cyrsiau yn addas i’r rhai sydd â rhywfaint o brofiad ym maes gofaint arian.

Dewiswch o blith amrywiaeth o dechnegau gosod cerrig, technegau ffurfio, enamlo, castio, colfachau, uniadau a chlasbiau ac ati. Gall myfyrwyr arbenigo mewn techneg wahanol bob 10 wythnos neu barhau â’u harbenigedd am y flwyddyn gyfan os dymunant. Mae’r gweithdai hyn yn hyblyg o ran cynnwys, i’ch galluogi i fireinio technegau gwneud gemwaith uwch. Bydd disgwyl i chi wneud rhywfaint o waith ymchwil a dylunio sy’n briodol i’ch arbenigedd.

Gall pob sesiwn 10 wythnos fod yn annibynnol o’r lleill - bydd sgiliau yn cael eu haddysgu ar gyfer pob arbenigedd yn ôl yr angen. Bydd disgwyl i fyfyrwyr weithio’n annibynnol a chynhyrchu gwaith o safon uchel.

Gwybodaeth allweddol

Mae dilyniant drwy gydol y flwyddyn, ond mae pob cwrs Gofaint Arian yn gallu bod yn annibynnol o’r lleill – byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol ar bob cwrs yn ôl yr angen.

Darperir yr holl offer mewn gweithdy llawn cyfarpar. Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu eu harian eu hunain sydd ar gael yn https://www.cooksongold.com.

Bydd cost y defnyddiau yn dibynnu ar ddyluniadau unigol a dewis cerrig. Bydd o leiaf un prosiect i’w gwblhau ar bob cwrs.

Ffi stiwdio £10
Silversmithing
Cod y cwrs: ZE161 PLD2
09/01/2025
Llwyn y Bryn
10 weeks
Thu
12.30 - 3pm
£260
Lefel 3/4
Silversmithing
Cod y cwrs: ZE161 PLD3
27/03/2025
Llwyn y Bryn
10 weeks
Thu
12.30 - 3pm
£260
Lefel 3/4