Mae tri myfyriwr sydd ar fin graddio o gwrs Paratoi ar gyfer y Lluoedd Arfog Coleg Gŵyr Abertawe ar eu ffordd i borfeydd newydd ar ôl llwyddo yn eu cais i ymuno â'r Llynges Frenhinol.
Mae Hamish Fleming, Matthew Milner a John Sanderson i gyd yn cytuno fod y cwrs 18 wythnos ar gampws Tycoch wedi eu helpu i baratoi yn feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer yr heriau sy'n eu hwynebu.
“Mae Hamish yn disgwyl dechrau ei hyfforddiant fel Technegydd Cyfathrebu ym mis Hydref,” dywedodd y darlithydd Greg Morgan. “Mae Matthew yn dechrau ei hyfforddiant fel recriwt ar gyfer y Môr-filwyr Brenhinol ar ei ben-blwydd yn 17 oed, ac mae John yn dechrau ei hyfforddiant cychwynnol ar HMS Raleigh. Mae'r tri ohonyn nhw yn enghreifftiau gwych o ymroddiad ac ymrwymiad, ac rwy'n sicr bod gyrfaoedd disglair o'u blaenau nhw ym myd gwasanaeth cyhoeddus.”
Mae'r cwrs Paratoi ar gyfer y Lluoedd Arfog yn cynnwys cyfnod cychwynnol o bum wythnos i brofi potensial y myfyrwyr. Mae'r safonau yn llym - disgwylir i'r myfyrwyr eillio bob bore ac os nad ydynt yn gwneud hynny maen nhw'n gorfod gwneud ymarferion byrfraich. Maen nhw'n cael archwiliad pac a phersonol bob bore hefyd.
Mae'r gweithgareddau corfforol yn cynnwys nofio, sesiynau ffitrwydd a gweithgareddau awyr agored fel syrffio, cyfeiriadu a gwaith map, canŵo, dringo, abseilio ac adeiladu pontŵn.
“Ar y cwrs dysges eich bod chi dim ond yn cael allan beth rydych chi'n rhoi mewn, o ran ymdrech,” meddai Matthew. “Dwi wastad wedi bod yn rhywun disgybledig sy'n parchu eraill, ond mae'r cwrs yma wedi mynd â'm safonau i lefel newydd. Mae gen i ddealltwriaeth llawer gwell o'r byd milwrol a bywyd yn y Lluoedd ac roedd hyn yn hollbwysig er mwyn i mi lwyddo yn fy Nghwrs Darpar Fôr-filwyr Brenhinol. Cael fy nhystysgrif ar gyfer pasio'r cwrs oedd llwyddiant mwyaf fy mywyd hyd yn hyn."
Roedd John Sanderson, a glywodd am y cwrs Paratoi ar gyfer y Lluoedd Arfog gan ei frawd hŷn a gwblhaodd y cwrs yn y coleg, wedi dilyn y Cwrs Cyn Ymuno â'r Llynges Frenhinol yn ddiweddar, ac wedi llwyddo i gwblhau profion nofio a chorfforol.
“Rwy'n cyfrif y diwrnodau cyn i mi adael ac ymuno â HMS Raleigh,” meddai John. “Dwi wedi pacio popeth, ac yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth dwi'n ei chael gan fy nheulu a'm ffrindiau.”