Paratoi ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2 - Tystysgrif
Trosolwg
Bydd y cwrs blwyddyn hwn yn eich ysbrydoli i wella sgiliau cysylltiedig â gwasanaethau cyhoeddus a sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol trwy raglen amrywiol a heriol. Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Sgiliau gwasanaethau cyhoeddus
- Cyflogaeth
- Iechyd a ffitrwydd
- Gweithgareddau a gwaith tîm
- Sgiliau ymgyrch a llywio tir
- Chwaraeon a hamdden.
Gwybodaeth allweddol
Pum gradd D neu uwch ar lefel TGAU. O leiaf radd D/E mewn Saesneg a mathemateg.
Bydd y rhan fwyaf o’r unedau astudio’n cael eu hasesu’n fewnol gan eich darlithwyr trwy aseiniadau.
Mae enghreifftiau o dystiolaeth nodweddiadol y bydd gofyn i chi eu cynhyrchu efallai yn cynnwys adroddiadau, cyflwyniadau, posteri, taflenni a dangos sgiliau ymarferol mewn unedau ffitrwydd ac awyr agored neu mewn sefyllfaoedd chwarae rôl.
Asesir dwy uned yn allanol gan ddefnyddio profion.
Gallwn addysgu rhannau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
BTEC Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ond mae’n bosibl ystyried cyrsiau Lefel 3 eraill. Neu, gall myfyrwyr wneud cais i ymuno â gwasanaeth cyhoeddus, ond bydd rhaid iddynt fodloni’r gofynion mynediad a phasio’r broses ddethol.
Efallai y bydd costau os bydd gwibdeithiau’n cael eu trefnu.