Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg Lefel 2 - Diploma
Ffôn: 01792 284097 E-bost: creative.media@gcs.ac.uk
Trosolwg
Bydd y cwrs blwyddyn hwn yn eich cyflwyno i’r sgiliau technolegol, creadigol a phersonol sy’n ymwneud â gwaith yn niwydiannau’r cyfryngau creadigol. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ar gyfer gyrfaoedd yn y cyfryngau ac yn gweithio tuag at gynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion fel ffilm, sain a dylunio graffig.
Gwybodaeth allweddol
Un radd C ar lefel TGAU, gyda nifer o raddau D neu E. Mae diddordeb yn y cyfryngau a pharodrwydd i gymryd rhan mewn prosiectau creadigol yn hanfodol.
Asesir y cwrs trwy waith prosiect parhaus i gopïo arferion proffesiynol y cyfryngau. Mae rhai asesiadau yn cynnwys cynhyrchu cynhyrchion y cyfryngau ar gyfer cleient.
Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 3 mewn pynciau cysylltiedig â’r cyfryngau fel Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3 (UAL).
Mae ffi stiwdio o £25 ar gyfer y cwrs hwn.