Skip to main content

Celf a Dylunio Lefel 2 - Diploma Technegol

Amser-llawn
Lefel 2
UAL
Llwyn y Bryn
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Mae Diploma Technegol Lefel 2 mewn Celf a Dylunio yn cynnig rhaglen un flwyddyn gynhwysfawr i gychwyn eich taith gelfyddydol. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth hanfodol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch ym maes amrywiol celf a dylunio. 

Byddwch yn ymchwilio i ddisgyblaethau amrywiol fel lluniadu, peintio, cerflunio, dylunio graffig, a mwy. Trwy brosiectau ymarferol ac aseiniadau creadigol, byddwch yn archwilio gwahanol dechnegau, deunyddiau, a chysyniadau artistig, gan feithrin eich mynegiant artistig a mireinio eich galluoedd technegol. 

Mae’r cwricwlwm yn cwmpasu ffurfiau celf traddodiadol a digidol, gan eich galluogi i ddatblygu hyfedredd mewn meddalwedd dylunio digidol a chymwysiadau amlgyfrwng. Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar hanes celf, tueddiadau celf gyfoes, a dylanwadau diwylliannol sy’n llywio’r byd celf heddiw. 

Ar ôl cwblhau’r diploma hwn, bydd gennych sylfaen gadarn i ddilyn astudiaethau pellach mewn celf a dylunio neu gychwyn gyrfa werth chweil yn y diwydiant creadigol bywiog. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd C neu uwch mewn TGAU Celf 
  • A thair gradd D neu uwch mewn pynciau TGAU eraill.

Bydd angen pasio chwe uned (dim arholiadau). Y graddau yw Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth. 
 

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn symud ymlaen i’r cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celf a Dylunio neu’r cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Ffotograffiaeth.

Mae ffi stiwdio £50 bob blwyddyn ar gyfer y cwrs hwn a fydd yn talu am yr holl adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y flwyddyn.