Skip to main content
 Paul Kift

Pŵer Trawsnewidiol Prentisiaethau: Hybu Llwyddiant Busnes

Gan Paul Kift, Dirprwy Bennaeth Sgiliau a Phartneriaethau Coleg Gŵyr Abertawe

Mae’r economi yn esblygu ar raddfa barhaus, sy’n golygu bod busnesau yn wynebu pwysau i aros yn gystadleuol, arloesol a chynhyrchiol. Un strategaeth hynod effeithiol nad yw’n cael ei ddefnyddio ddigon yw prentisiaethau. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe rydym yn gweld effaith drawsnewidiol prentisiaethau ar fusnesau hyd a lled Cymru bob dydd. 

Mae prentisiaethau wedi symud y tu hwnt i rolau galwedigaethol traddodiadol, ac maent bellach yn cynnwys llwybrau i feysydd arwain, rheoli a sectorau proffesiynol. Hefyd, mae prentisiaethau gradd wedi rhoi hwb i gynhyrchiant a llwyddiant busnesau ac erbyn hyn mae nifer gynyddol o fusnesau yn darganfod eu mantais strategol: mae prentisiaethau yn ffordd o lywio talent, llenwi bylchau mewn sgiliau, gwella cyfraddau cadw gweithwyr a lleihau costau recriwtio.  

Uwchsgilio ac ailsgilio trwy brentisiaethau

Nid yw prentisiaethau yn addas ar gyfer gweithwyr newydd yn unig - maent yn ffordd effeithiol o uwchsgilio ac ailsgilio staff presennol. Mae diwydiannau’n addasu yn barhaus i weddu i dechnoleg newydd ac anghenion cwsmeriaid ac mae prentisiaethau’n cynnig ffordd strwythuredig a chost effeithiol o recriwtio.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn gweithio ar y cyd â busnesau ledled y wlad i greu rhaglennu prentisiaethau pwrpasol i weithwyr. Mae cyflogwyr o ystod o ddiwydiannau megis Admiral, GE Aviation, TUI, Ecolab a Bluestone yn manteisio ar y ddarpariaeth a gynigiwn. Rydym hefyd yn cefnogi busnesau bach a chanolig a micro fusnesau o Gymru, sydd wrth gwrs yn rhan mor bwysig o’n heconomi fel gwlad. Mae sefydliadau sector cyhoeddus hefyd yn defnyddio prentisiaethau i uwchsgilio ac ailsgilio eu gweithlu. 

Mae’r rhaglenni hyn yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o anghenion, gan gynnwys:

  • Integreiddio technolegol: Darparu dysgu wedi’i gynllunio ar y cyd mewn meysydd megis TG, seiberddiogelwch, dadansoddi data a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
  • Newid Gyrfa: Ailsgilio gweithwyr ar gyfer rolau eraill
  • Datblygu Arweinyddiaeth: Paratoi gweithwyr i symud ymlaen i rolau arwain trwy raglenni sy'n canolbwyntio ar reolwyr.

Atebion ar gyfer pob math o fusnesau

Fel darparwr arobryn, mae Coleg Gŵyr Abertawe’n gweithio gyda phob math o fusnesau ac rydym yn cynnig rhaglenni hyblyg ac ymatebol sy’n cyd-fynd â safonau’r diwydiant. Mae ein darpariaeth yn cwmpasu sectorau megis:

  • Rheoli Cyfleusterau: Ystadau gweithredol a rheoli diogelwch.
  • Digidol a TG: Mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau technoleg trwy raglenni datblygu meddalwedd, cyfryngau digidol a sgiliau digidol ar gyfer busnes.
  • Gweinyddu ac Arwain Busnes: Gwella effeithlonrwydd gweithredol ar draws diwydiannau.
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Hyfforddi gofalwyr medrus i gefnogi cymunedau.

Goresgyn heriau

Er gwaethaf yr heriau amlwg, mae rhai busnesau yn poeni am heriau penodol.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn yn uniongyrchol drwy:

  • Weinyddu syml: Ein tîm sy’n gyfrifol am y broses sefydlu a’r gwaith papur.
  • Hyfforddiant wedi’i deilwra: Rydym yn cyd-greu rhaglenni pwrpasol wedi'u teilwra i'ch anghenion penodol.
  • Canllawiau Ariannu: Rydym yn helpu busnesau i archwilio i ariannu a chael mynediad at grantiau.

Y dyfodol

Erbyn heddiw gall busnesau wneud y mwyaf o brentisiaethau er mwyn cyflawni twf. Drwy fuddsoddi mewn prentisiaethau, rydych chi’n mynd i’r afael â heriau ac yn adeiladu gweithlu gwydn yn barod ar gyfer y dyfodol.

Pam Coleg Gŵyr Abertawe?

Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Fel darparwr arobryn rydym yn cydweithio â 673 o gyflogwyr ac yn cefnogi bron i 3,000 o brentisiaid bob blwyddyn. Rydym yn ymfalchïo mewn teilwra rhaglenni i'ch anghenion penodol a gweithio gyda chi i greu atebion hyfforddi sy'n cyd-fynd yn berffaith â'ch nodau."

Os ydych chi am gyflawni cynnydd a datblygu eich busnes trwy brentisiaethau, cysylltwch â Paul Kift ar LinkedIn www.linkedin.com/in/paulkift neu e-bostiwch training@gcs.ac.uk