Skip to main content

Egwyddorion Diogelwch Tân (Highfield) Lefel 2 - Dyfarniad

GCS Training
Lefel 2
Highfield
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae gan bob gweithle rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod eu hamgylchedd yn ddiogel o ran risgiau tân. Yn y pen draw mae hyn yn golygu sicrhau bod gan eich tîm yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth ofynnol ynghylch diogelwch tân.

Anelir y cymhwyster hwn at y rhai sy’n ymwneud â rheoli tân a diogelwch ac sy’n gweithio mewn maes lle mae tân yn risg.

Bydd dysgwyr yn deall mai cyfrifoldeb pawb yw diogelwch tân, a byddant yn dysgu am achosion tân, peryglon cyffredin, ac asesiadau risg tân. Gall gynorthwyo’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth neu ddysgwyr sy’n paratoi ar gyfer cyflogaeth.

Gwybodaeth allweddol

Testunau

  • Peryglon a risgiau
  • Rheoli risgiau tân
  • Egwyddorion ac arferion rheoli diogelwch tân yn y gwaith
  • Rôl y swyddog tân dynodedig